Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Glanhawyr ychwanegol yn eich helpu i gadw'ch traethau'n lân

Bydd 13 o lanhawyr sydd newydd eu recriwtio yn gweithio ar ein traethau'r mis hwn i helpu i gadw rhai o fannau mwyaf poblogaidd Abertawe'n lân ac yn daclus i bobl leol a thwristiaid fel ei gilydd.

beach cleaners summer 2025

Mae'r cyfnod chwe mis hwn yn rhedeg rhwng nawr a mis Medi i gyd-fynd ag amserau prysuraf y flwyddyn i breswylwyr ac ymwelwyr.

Cytunwyd ar y mesurau hyn, sy'n rhan o ymrwymiad y cyngor i fuddsoddi ym mlaenoriaethau pobl Abertawe, yng nghyfarfod y Cyngor Llawn fis diwethaf.

Dywedodd Cyril Anderson, Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Cymunedol, fod angen i bawb chwarae eu rhan mewn tacluso parciau a thraethau ar ddiwedd eu hymweliad.

Meddai, "Mae sbwriel yn hyll, a gall fod yn beryglus hefyd. Mae pobl yn pryderu mwyaf am boteli, barbeciws tafladwy a baw cŵn oherwydd maent yn rhoi eraill mewn perygl.

"Mae barbeciws tafladwy sy'n cael eu claddu allan o'r golwg ar y traeth yn benodol o beryglus oherwydd maent yn cadw eu gwres am oriau, a gallant achosi llosgiadau sy'n newid bywyd i blant a phobl eraill nad ydynt yn ymwybodol eu bod nhw yno nes eu bod yn sefyll arnyn nhw."

Meddai'r Cyng. Anderson, "Dros y Pasg a'r haf bydd ein timau'n chwarae eu rhan ac yn cadw'n parciau a thraethau prysuraf yn lân ac yn daclus. Byddwn hefyd yn glanhau toiledau cyhoeddus mewn mannau i dwristiaid yn fwy aml.

"Gofynnwn i chi drin cyfleusterau a biniau â pharch. Os yw bin sbwriel neu faw cŵn yn llawn, ewch â'ch sbwriel adref gyda chi."

Yn ogystal â mynd i'r afael â sbwriel, bydd y glanhawyr traethau ar gyfer yr haf hefyd yn helpu i gadw rhwydwaith cynyddol o gyfleusterau Changing Places y cyngor mewn lleoedd fel Knab Rock a Rhosili yn lân a byddant yn clirio tywod a chwyn oddi ar lwybrau troed ac ymyl y ffyrdd.

I gael gwybod rhagor am eich traethau lleol, gan gynnwys y pedwar traeth Baner Las arobryn, ewch yma: https://www.abertawe.gov.uk/traethau

I gael gwybod rhagor am barciau Baner Werdd Abertawe a'i mannau agored gwych eraill ewch yma: https://www.abertawe.gov.uk/parcia

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 11 Ebrill 2025