Toglo gwelededd dewislen symudol

Helpwch i gadw Abertawe'n lân - ymunwch â'n tîm sbwriel

Mae Cyngor Abertawe yn lansio ymgyrch recriwtio fawr a fydd yn rhoi hwb i'w dimau glanhau rheng flaen ac yn sicrhau bod pob ward yn cael y cyfle i gael ei thacluso.

litter bin collection

Mae dwy ar bymtheg o swyddi ar gael yn nhîm glanhau'r cyngor fel rhan o ymgais i gau'n dynn ar daflu sbwriel a fydd yn helpu i gadw cymunedau'n lanach nag erioed.

Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn rhan o Dîm Gweithredol Glanhau Wardiau newydd a blaengar a fydd yn mynd i bob ward yn Abertawe gan ddechrau ym mis Awst, i lanhau'n drylwyr a mynd i'r afael â phrif dasgau clirio sbwriel a thipio anghyfreithlon.

Bydd eu gwaith yn ychwanegol at y miliynau o bunnoedd y flwyddyn y mae'r cyngor eisoes yn ei wario i fynd i'r afael â sbwriel, graffiti a thipio anghyfreithlon

Dywedodd Cyril Anderson, Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Cymunedol, y bydd y Tîm Gweithredol Glanhau Wardiau wedi'u neilltuo'n benodol i lanhau strydoedd y tynnwyd sylw atynt gan gynghorwyr a phreswylwyr.

Meddai, "Byddwn yn recriwtio pobl sy'n ymfalchïo yn Abertawe ac sydd am iddi edrych ar ei gorau. Bydd y timau'n ymweld â phob ward yn Abertawe ar sail cylchdro.

"Bydd fel y tîm PATCH hynod boblogaidd sy'n gwneud gwaith tebyg ar gyfer gwelliannau ac atgyweiriadau ffyrdd."

Ychwanegodd y Cyng. Anderson, "Mae cyflwyno'r Tîm Gweithredol Glanhau Wardiau yn un o fwy na 60 o ymrwymiadau polisi yr addawom wneud cynnydd arnynt yn y 100 o ddiwrnodau cyntaf ers iddynt gael eu mabwysiadu gan y cyngor yn gynharach y mis hwn.

"Mae strydoedd a chymunedau glanach yn un o flaenoriaethau pobl Abertawe ac rydym yn benderfynol o chwarae ein rhan. Byddem yn annog y cyhoedd i wneud eu rhan hefyd drwy beidio â thaflu sbwriel yn y lle cyntaf a thrwy adrodd am broblemau lle maent yn eu gweld."

Meddai'r Cyng. Anderson, "Mae'r cyngor eisoes yn gwario dros £2m y flwyddyn ar ddelio â sbwriel a glanhau ar ôl pobl sy'n meddwl ei fod yn iawn i daflu eu gwastraff gan mai swydd rhywun arall yw cadw'n cymunedau'n daclus.

"Bydd ein tîm newydd yn ein helpu i wneud hyd yn oed mwy i glirio sbwriel mewn cymunedau. Ond rydym hefyd yn annog pobl i wneud eu rhan drwy fynd â'u sbwriel adref gyda nhw os na allant ddod o hyd i fin neu os yw'r bin yn digwydd bod yn llawn."

Disgwylir i'r tîm newydd ddechrau ym mis Awst, gyda'r recriwtiaid newydd yn ymuno'n ddiweddarach. Bydd yn ymweld â phob ward yn y ddinas, gan ymateb i geisiadau gan gynghorwyr neu aelodau'r cyhoedd.

Mae'r cyngor eisoes yn codi sbwriel â llaw ar draethau bob dydd yn ystod misoedd prysur yr haf, yn glanhau canol y ddinas ac yn casglu tunelli o sbwriel a baw cŵn o finiau bob wythnos.

Bydd aelodau newydd y tîm yn cael hyfforddiant llawn cyn cael eu defnyddio am y tro cyntaf yn yr hydref. Heblaw am sbwriel, byddant hefyd yn mynd i'r afael â phroblemau fel baw cŵn, tynnu chwyn, graffiti a thipio anghyfreithlon.

Byddant hefyd yn cael eu hyfforddi i chwilota mewn gwastraff am dystiolaeth a allai nodi'r rheini a'i taflodd fel y gellir rhoi hysbysiadau o gosb benodol am daflu anghyfreithlon neu fynd ar drywydd achosion llys posib.

I gael gwybod mwy am wneud cais am swydd ac ymuno a'r Tîm Gweithredol Glanhau Wardiau, ewch i 

Gweithredydd Glanhau Arweiniol (dyddiad cau: 19/08/22) - Abertawe

Gweithredydd Glanhau (dyddiad cau: 19/08/22) - Abertawe

 

 

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 29 Gorffenaf 2022