Clefydau heintus
Gwybodaeth a chyngor am glefydau heintus ac atal eu hymlediad.
Mae clefydau heintus yn cael eu hachosi gan organebau byw fel firysau, bacteria a ffyngau. Gallant ymledu trwy gyswllt â pherson arall, trwy'r awyr, trwy fwyd halogedig neu wrth iddynt ddod i gysylltiad â gwaed halogedig neu hylifau corfforol. Mae plant a phobl oedrannus yn tueddu i fod â system imiwnedd wannach felly gallant fynd yn sâl yn haws.
Cadw'ch hun a phobl eraill yn ddiogel rhag clefydau heintus
Mae nifer o bethau y gallwch chi eu gwneud i leihau'r risg o ddal clefyd heintus neu ei drosglwyddo i rywun arall:
- golchwch eich dwylo'n rheolaidd
- dylech ddal unrhyw besychiadau neu disiadau mewn hances bapur, a dylid cael gwared ar hon mewn bin
- gorchuddiwch unrhyw gwtau
- gwnewch yn siŵr bod bwyd wedi'i goginio'n iawn
- paratowch eich bwyd ar arwyneb gwaith glân a defnyddiwch gyfarpar glân
- arhoswch gartref os ydych chi'n sâl
- sicrhewch eich bod yn cadw i fyny â brechiadau
- os ydych chi'n teithio dramor gwiriwch a oes unrhyw glefydau cyffredin neu a oes angen brechiad arnoch chi. Gallwch wirio pa frechlynnau y gallai fod eu hangen arnoch ar wefan MASTA.
Gwybodaeth am glefydau heintus
Gwybodaeth am heintiau gan Lywodraeth Cymru (Yn agor ffenestr newydd)
Clefydau heintus: gwybodaeth fanwl gan Gov.uk (Yn agor ffenestr newydd)
Arweiniad ar atal a rheoli heintiau gan Iechyd Cyhoeddus Cymru (Yn agor ffenestr newydd)
Mae gan Iechyd Cyhoeddus Cymru arweiniad ar atal a rheoli heintiau ar gyfer lleoliadau, sefyllfaoedd a heintiau penodol. Mae'r rhain yn cynnwys cartrefi gofal, lleoliadau gofal plant ac addysgol, lleoliadau gofal iechyd a charchardai.