Toglo gwelededd dewislen symudol

Clefyd coed ynn

Clefyd ffwngaidd yw clefyd coed ynn, a adwaenir hefyd fel clefyd (Chalara) coed ynn, sy'n effeithio ar bob rhywogaeth o goed ynn (Fraxinus). Mae'r clefyd wedi ymledu i'r gorllewin ar draws y wlad ac mae'n effeithio ar bron pob rhan o Gymru erbyn hyn.

Mae'r ffwng (Hymenoscyphus fraxineus) yn glynu ei hun wrth ddail coed ynn ac yn ymledu trwyddynt i'r canghennau, gan beri i'r coed farw yn y pen draw.

Mae clefyd coed ynn yn broblem ar draws Ewrop a disgwylir i 90% o goed ynn farw o'i herwydd. Mae'n broblem enfawr i berchnogion tir/gynghorau ar draws y DU sydd â choed ynn ar eu tir. Gall coed y mae'r clefyd yn effeithio arnynt syrthio heb rybudd ar bobl, eiddo, llinellau pŵer a ffyrdd.

Mae rhai cynghorau gwledig yn Lloegr yn meddwl bod clefyd coed ynn wedi effeithio ar gynifer â 500,000 o goed ynn ar eu tir. Yn Abertawe, rydym wedi nodi oddeutu 2,800 o goed ynn y mae'n rhaid eu torri i lawr oherwydd y clefyd, er y gall y ffigur terfynol fod yn uwch o lawer.

I atal coed ynn rhag brifo pobl neu ddifrodi eiddo, rydym yn dechrau rhaglen arolygu a gwaredu coed ynn a fydd yn cymryd nifer o flynyddoedd i'w chwblhau. Drwy weithredu yn awr, gallwn amddiffyn pobl ac eiddo rhag clefyd na ellir ei anwybyddu.

 

Sut mae'r clefyd yn effeithio ar goed ynn

Mae'r clefyd yn effeithio ar goed ynn drwy rwystro systemau cludo dŵr, achosi colled dail ac anafiadau yn y coed ac ar y rhisgl. Mae hyn yn arwain at farwolaeth corun y goeden.

Mae coed yn dod yn frau dros amser gyda changhennau'n torri'n rhydd oddi wrth brif gorff y goeden. Os nad ymdrinnir â'r rhain, bydd y coed mewn perygl o gwympo ac yn cyflwyno perygl dybryd i'r ardal gyfagos.

 

Pa olwg sydd ar glefyd coed ynn?

 

Sut rydym yn ymdrin â chlefyd coed ynn

Nid oes modd gwella'r cyflwr ac nid oes ffordd ymarferol o atal y clefyd rhag ymledu. Amcangyfrifir y caiff tua 90% o goed ynn yn y DU eu lladd gan glefyd coed ynn.

Mae miloedd o goed ynn ar dir cyhoeddus yn Abertawe a llawer mwy ar dir preifat. Yr unig ffordd o waredu'r risg a achosir gan goed sydd wedi'u heffeithio'n ddifrifol yw eu torri i lawr.

Byddwn yn ymdrin â choed sydd ar dir cyhoeddus, megis parciau, ysgolion neu wrth ymyl y ffordd etc, yn unig.

Cynhelir arolygon yn barhaus i nodi coed y mae'n rhaid eu torri i lawr ar unwaith. Cymerir llawer o fisoedd i gwblhau'r arolygon ac yna gynhelir arolygon ychwanegol ar sail flynyddol tan y bydd y clefyd wedi rhedeg ei gwrs.

Dros yr ychydig flynyddoedd nesaf, caiff coed ynn ar dir cyhoeddus eu hasesu i gadarnhau sut mae'r clefyd wedi effeithio arnynt a pha mor fuan y bydd yn rhaid eu torri i lawr. 

Categoreiddir coed ynn yr effeithir arnynt gan glefyd coed ynn mewn un o bedwar categori. Bydd hwn yn ein helpu i gadarnhau pa rai y mae'n rhaid eu torri i lawr. Mae coed yng nghategori un naill ai'n goed nad yw'r clefyd coed ynn yn effeithio arnynt neu'n goed sy'n dangos arwyddion cynnar o'r clefyd. Bydd y clefyd yn effeithio'n ddifrifol ar goed sydd yng nghategori pedwar, gyda maint sylweddol o golled dail a changhennau brau - bydd gwaredu'r coed hyn yn flaenoriaeth. 

Mae rhai coed ynn yn dangos lefelau da o wydnwch i'r clefyd ac ni ddylid ystyried eu gwaredu - Mae'r coed hyn yn hynod bwysig oherwydd y gwerth ecolegol maent yn eu cadw yn yr amgylchedd a gallant helpu i ailboblogi'r rhywogaeth yn y dyfodol.

 

Yr hyn y gallwch ei wneud

Nid oes angen i'r cyhoedd adrodd i ni am goed ynn sydd ar dir cyhoeddus. Byddwn yn cynnal arolwg llawn ar draws y ddinas.

Os oes gennych goed ynn ar eich tir a allai gwympo ar dir, ffyrdd neu eiddo cyfagos, mae'n bwysig i'r coed gael eu hasesu gan arbenigwr coedyddiaeth, sydd â chymwysterau neu brofiad addas, er mwyn cadarnhau eu hiechyd a lefel y risg y maent yn ei rhoi.

Mae gan berchnogion tir preifat ddyletswydd gofal dan gyfraith gyffredin i sicrhau y maent yn gwneud popeth sy'n rhesymol ymarferol i atal niwed neu ddifrod i gymdogion ac, o dan Ddeddfau Atebolrwydd Meddianwyr, ymwelwyr â'u tir ynghyd â thresmaswyr. Mae gofyniad arnynt hefyd o dan y Ddeddf Priffyrdd i sicrhau na fydd eu coed yn peryglu pobl ar ffyrdd a throedffyrdd.

Mae gofynion ychwanegol ar fusnesau o dan y Ddeddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith i sicrhau diogelwch yn y gweithle.

Os ydych yn ddeiliad tai unigol, gall hyn ofyn i chi barhau i wirio cyflwr eich coed ynn; os ydych yn berchennog tir mwy neu'n fusnes, bydd yn rhaid i chi:

  • Nodi sawl coeden ynn sydd gennych a ble mae'r coed
  • Asesu eu cyflwr presennol - defnyddiwch ganran y canopi coed sy'n weddill
  • Nodi lle mae'r coed y mae'r clefyd yn effeithio arnynt yn achosi perygl
  • Gwaredu coed peryglus

Ar ôl y broses gychwynnol o asesu a lliniaru, argymhellwn eich bod yn cynllunio archwiliadau parhaus a nodi'r dirywiad disgwyliedig yn y coed ynn sydd gennych. Bydd hwn yn eich helpu i gyllido am waith y bydd ei angen yn y dyfodol.Disgwylir i goed y mae'r clefyd yn effeithio arnynt golli 10-15% o'u canopi'r flwyddyn er y gall y dirywiad fod yn gyflymach na hwn. Dylid cymynu coed a chanddynt rhwng 0% a 25% o ganopi'n weddill os ydynt yn agos at bobl neu eiddo. Gellir rhagweld pan ddaw coed a chanddynt rhwng 25% a 50% o ganopi'n weddill yn beryglus.

 

Cynllunio a Gorchmynion Cadw Coed (GCC)

Ni ellir cymeradwyo unrhyw rywogaeth o goed ynn mewn cynlluniau tirwedd.

GCC presennol

Mae goblygiadau llawn y clefyd yn anhysbys o hyd, felly ni ystyrir bod cymynu coed iach yn angenrheidiol. Parheir i feirniadu ceisiadau am ganiatâd i gymynu coed nad yw'r clefyd yn effeithio arnynt (dan orchmynion cadw coed ac ardaloedd cadwraeth) ar sail eu rhinweddau eu hunain ac ni fydd y posibilrwydd o Chalara'n heintio'r coed yn ystyriaeth sylweddol. Bydd coed y cadarnhawyd bod Chalara wedi'u heintio hefyd yn cael eu beirniadu ar sail eu rhinweddau yn erbyn canlyniad tebygol haint, gwerth rheoli'r clefyd a'r ddamcaniaeth sy'n datgan y gall coed aeddfed ddarparu ffynhonnell o goed gwrthiannol. Bydd cymynu coed sydd dan Orchmynion Iechyd Planhigion Statudol ac y mae'r clefyd wedi'u heintio'n eithriad.

GCC newydd

Nes clywir yn wahanol, ni ystyrir y posibilrwydd o Chalara'n heintio'r coed fel cyfiawnhad sylweddol am beidio â gwneud GCC, er y bod achos cadarn o haint Chalara'n debygol o fod yn ffactor sylweddol wrth benderfynu yn erbyn gwneud gorchymyn.

Eithriadau ar gyfer coed marw a pheryglus

Rhaid rhoi pum niwrnod o rybudd yn ysgrifenedig i'r cyngor o waith wedi'i eithrio ar goed a warchodir i waredu coed marw a rhannau sy'n beryglus ac sy'n achosi perygl dybryd. Mae cymynu sy'n ofynnol gan Orchymyn Iechyd Planhigion yn eithriad a, gan ddibynnu ar amgylchiadau, gall diwreiddio coed ynn a blannwyd yn ddiweddar ac y mae Chalara wedi'u heintio fod yn eithriad gan y mae'n ymddangos bod y clefyd yn effeithio ar goed ifanc. Fel arall, y tu allan i Orchymyn Iechyd Planhigion, ni fydd cymynu coed sydd wedi'u heintio'n eithriad yn rhinwedd y ffaith eu bod wedi'u heintio'n unig. 

 

Cwestiynau cyffredin ynghylch clefyd coed ynn

Beth sy'n digwydd os nad ydynt yn gwneud hwn?
Bydd miloedd o goed mawr peryglus yn sefyll ac yn gallu cwympo'n agos at ffyrdd, ysgolion, eiddo a mannau cyhoeddus.

Pa mor gyflym ydy'r clefyd yn ymledu o goeden i goeden?
Mae'r clefyd yn cael ei achosi gan sborau ffwng a gludir yn yr awyr ac a all ymledu'n fwy nac 20km y flwyddyn. Mae'r ymlediad o goeden i goeden yn dibynnu'n fwy ar wydnwch naturiol y goeden benodol wrth i'r sborau gael eu rhyddhau yn eu biliynau ym mhobman.

Faint o amser y bydd yn ei gymryd?
Gall y broses o waredu coed ynn y mae'r clefyd yn effeithio arnynt gymryd sawl blwyddyn gan fod coed yn dirywio dros amser. Bydd pob coeden y mae'r clefyd yn effeithio arni'n dirywio 10 i 20% y flwyddyn gan ddibynnu ar sawl ffactor amgylcheddol.

Ydy'r cyngor yn defnyddio hwn fel esgus i waredu mwy o goed?
Nac ydy. Mae'r clefyd yn anffodus iawn ac yn drychineb i'r amgylchedd naturiol. Ni ellir amcangyfrif colled cynifer o goed a'r ecosystemau maent yn eu cefnogi'n rhy isel.

A ydych yn mynd i gymynu rhywogaethau eraill o goed?
Nid oherwydd clefyd coed ynn. Yr unig goed eraill a gaiff eu gwaredu gan yr Adran Parciau yw'r coed marw a pheryglus a gaiff eu gwaredu'n ddyddiol er diogelwch y cyhoedd.

A ydych yn cymynu coed ynn nad oes angen eu cymynu?
Nac ydynt, yn bendant. Caiff yr holl goed sydd i'w cymynu eu hasesu cyn i unrhyw waith gael ei wneud iddynt a chânt eu cadw cyhyd ag y caniateir yn ôl diogelwch.

Fydd rhai coed ynn yn wydn i'r clefyd a sut y byddwn yn eu gwarchod?
Mae'n ymddangos bod rhai coed ynn yn wydn neu'n wydn iawn i'r clefyd. Mae'r coed hyn yn hynod bwysig oherwydd y gwerth ecolegol maent yn ei gadw ar gyfer y dirwedd. Byddwn yn parhau i fonitro dirywiad neu wydnwch yr holl goed a gedwir dros nifer o flynyddoedd. Nodir yr holl goed sy'n dangos gwydnwch da a hysbysir perchnogion adrannol y coed hynny.

A ydych yn mynd i blannu coed yn lle'r rheiny a gollir?
Yn y pen draw, dechreuwn blannu coed newydd yn lle'r rheiny a gollir ond digwyddir hwn yn y tymor hir fel rhan o strategaeth amgylcheddol a glasu'r cyngor ar draws y ddinas.

Beth fydd yn digwydd i'r holl bren?
Byddwn yn gwerthu'r pren neu'n ei ddefnyddio lle y bo'n economaidd i wneud hynny. Gall gymryd peth amser i drefnu hwn a dod o hyd i'r offer y mae ei angen arnom.

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 29 Hydref 2021