Toglo gwelededd dewislen symudol

Cannoedd o weithgareddau am ddim i bobl ifanc a phobl hŷn

Mae dros 120 o glybiau, grwpiau a sefydliadau wedi cyflwyno cais llwyddiannus am gyllid gwerth dros £200,000 i gynnal digwyddiadau a gweithgareddau ar gyfer pobl ifanc a phobl hŷn yn Abertawe dros y gaeaf.

Coast activities winter 2024 with logo

Coast activities winter 2024 with logo

Mae'r rhain yn cynnwys partïon Nadolig mewn canolfannau a chlybiau cymunedol, bydd clwb rygbi Pen-clawdd yn cynnal diwrnod hwyl sy'n cynnwys pryd o fwyd ar gyfer pobl ifanc a phobl hŷn, bydd The Climbing Hangar yn cynnig clybiau dringo rheolaidd ar gyfer pobl ifanc a'u teuluoedd dros y Nadolig ac yn ystod gwyliau'r ysgol ym mis Chwefror a bydd Menter Iaith Abertawe yn cynnal sesiynau ioga drwy gyfrwng y Gymraeg i helpu plant i wella eu hiechyd corfforol a meddyliol.

Bydd Bikeability yn cynnal sesiynau newydd ar gyfer pobl hŷn a fydd yn annog pobl dros 50 oed i fynd mas ar eu beiciau a chwrdd â ffrindiau newydd, a bydd Fferm Gymunedol Abertawe yn cynnal gweithdai coginio sy'n hyrwyddo bwyta'n iach, a bydd cyfle i'r rhai sy'n cymryd rhan fwynhau pryd o fwyd cynnes gyda'i gilydd.

Dyma rai yn unig o'r cannoedd o weithgareddau cymorthdaledig ac am ddim a fydd yn cael eu cynnal ac maent yn rhan o becyn cymorth gwerth £650,000 ar gyfer yr holl breswylwyr dan ymgyrch #YmaIChiYGaeafHwn Cyngor Abertawe.

Mae'r cyllid ar gyfer gweithgareddau COAST (Creu Cyfleoedd ar draws Abertawe Gyda'n Gilydd) wedi'i reoli a'i ariannu gan y Cyngor a Chronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 17 Rhagfyr 2024