Toglo gwelededd dewislen symudol

Grantiau ar gael i ddod â chymunedau ynghyd

Mae grwpiau cymunedol sy'n gweithio i ddatblygu digwyddiadau cynhwysol neu leoedd ar gyfer cymunedau yn Abertawe bellach yn gallu gwneud cais am gyllid.

Community Cohesion generic pic from Canva

Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu cyllid i gefnogi sefydliadau a'u prosiectau.

Mae grantiau'n cael eu rheoli gan Dîm Cydlyniant Cymunedol Bae'r Gorllewin a gellid eu defnyddio i hyrwyddo neu greu digwyddiadau o gwmpas themâu penodol fel Mis Hanes Pobl Dduon, Wythnos Ymwybyddiaeth o Droseddau Casineb, Mis Hanes LHDTC+, Diwrnod Rhyngwladol Iaith Arwyddion neu Ddiwrnod Coffáu'r Holocost.

Mae hyd at £800 ar gael i ymgeiswyr llwyddiannus, a'r dyddiad cau yw 14 Tachwedd.

Meddai Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Les, Alyson Anthony, "Mae'r grantiau hyn yn ddelfrydol i grwpiau sy'n cefnogi'r gymuned leol gyda newidiadau i'r hinsawdd bresennol, er enghraifft, sefydlu mentrau cynhwysol i gynorthwyo gyda'r argyfwng costau byw, creu negeseuon cadarnhaol neu fynd i'r afael â materion integreiddio ac unigrwydd.

"Mae angen iddynt gynnwys ein cymunedau Du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig, gan gynnwys y gymuned Sipsiwn, Roma a Theithwyr, pob cenedl gan gynnwys pobl sydd newydd gyrraedd y wlad, ffoaduriaid a cheiswyr lloches a mentrau hyder o ran LHDTC+ ac anabledd."

E-bostio cydlyniant.cymunedol@abertawe.gov.uk

 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 26 Hydref 2023