Toglo gwelededd dewislen symudol

Prosiectau gwella cymdogaethau i elwa o hwb gwerth £1 miliwn

Mae cymunedau ar fin elwa o hwb gwerth £1m i brosiectau gwella cymdogaethau ar draws y ddinas.

Defibrillators going in to car parks

Mae gan bob un o'r 73 cynghorydd hawl ar hyn o bryd i gyfran o gronfa gwerth £1m y flwyddyn i'w wario ar brosiectau cymunedol. Mae'r prosiectau hyn yn amrywio o dalu am osod diffibrilwyr a chefnogi digwyddiadau cymunedol, i dacluso gerddi cymunedol neu hybu cynlluniau plannu blodau gwyllt lleol. 

Nawr bydd cyfle ganddynt i wneud cynnig am hyd yn oed mwy o arian ar ôl i hwb untro arall gwerth £1 miliwn gael ei neilltuo iddynt ei ddefnyddio fel rhan o Gronfa Buddsoddi Cymunedol.

Meddai Rob Stewart, Arweinydd y Cyngor, "Mae cynghorwyr mewn sefyllfa unigryw i wybod pa fath o brosiectau a mentrau ar raddfa fach yn eu hardal sy'n haeddu hwb gan y Cyngor.

"Drwy gynnig £1m yn ychwanegol ar gyfer cynlluniau cyllideb gymunedol cynghorwyr, byddwn yn gallu gwneud yn siŵr bod yr arian yn mynd yn bell, gan wneud gwahaniaeth ar draws ein hardal."

Ychwanegodd, "Mae'r math hwn o fuddsoddiad yn rhan o'n hymrwymiad parhaus i bobl Abertawe, sef buddsoddi mewn prosiectau sy'n bwysig iddynt, sy'n gwella lles ac yn rhoi hwb i gymdogaethau a allai deimlo eu bod yn cael eu hanwybyddu fel arall."

Mae'r Gronfa Buddsoddi Cymunedol yn cael ei hariannu gan daliad untro gwerth £9 miliwn o arbedion cyllideb y Cyngor y llynedd, a wnaed yn bosib oherwydd rheolaeth ariannol doeth. 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 12 Medi 2024