Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - Mai

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Digwyddiad Digidol Bae Abertawe yn llwyddiant ysgubol

Mae digwyddiad o'r enw Troedio'r Llwybr i Well Cysylltedd wedi cael ei ganmol fel llwyddiant ysgubol, gan dynnu sylw at botensial trawsnewidiol seilwaith digidol yn Ninas-ranbarth Bae Abertawe.

Swansea Arena from above

Wedi'i drefnu gan dîm rhaglen seilwaith digidol Bargen Ddinesig Bae Abertawe, cynhaliwyd y digwyddiad ym Mharc y Scarlets yn Llanelli yn ogystal â chael ei ffrydio'n fyw ar-lein.

Daeth ag arweinwyr y diwydiant, llunwyr polisi a rhanddeiliaid ynghyd i drafod y datblygiadau mewn cysylltedd digidol ac arloesedd sy'n digwydd, ynghyd â'r heriau a'r cyfleoedd niferus a ddaw yn sgil bod â chysylltiadau gwell.

Yn ogystal â'r trafodaethau craff niferus trwy gydol y dydd, rhoddwyd trosolwg cynhwysfawr o'r rhaglen, sy'n cael ei chyflwyno'n llawn ar draws y tair ffrwd waith, gan dynnu sylw at ei rôl hanfodol wrth yrru twf economaidd a chynhwysiant cymdeithasol ar draws y rhanbarth.    

Bu arbenigwyr yn trafod pynciau fel cyflwyno 5G, cysylltedd gwledig, ac integreiddio technolegau Rhyngrwyd Pethau, gan gynnig mewnwelediadau gwerthfawr ac atebion ymarferol i gryfhau ecosystem ddigidol y rhanbarth ymhellach.

Dywedodd y Cynghorydd Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe a Chadeirydd Cyd-bwyllgor Bargen Ddinesig Bae Abertawe: "Mae llwyddiant ysgubol y digwyddiad yn tanlinellu rôl hanfodol seilwaith digidol yn ein dyfodol ac fel rhanbarth rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod pawb yn elwa ar y datblygiadau hyn. 

"Nid yw'r rhaglen seilwaith digidol yn ymwneud â thechnoleg yn unig - mae'n ymwneud â chreu cyfleoedd a gwella bywydau.

"Mae'r digwyddiad wedi tynnu sylw at y cynnydd anhygoel rydyn ni wedi'i wneud hyd yn hyn yn ogystal â'r gwaith cydweithredol parhaus sydd ei angen, i wneud y mwyaf o'r cyfleoedd cyffrous sydd o'n blaenau." 

Dywedodd Rhys Jones o Arwain DGC: "Rhannodd ffigurau amlwg o'r sectorau digidol a thechnoleg eu gweledigaeth ar gyfer y dyfodol, gan bwysleisio pwysigrwydd seilwaith digidol cadarn wrth feithrin arloesedd a chystadleugarwch."

Dywedodd Richard Williams, Pennaeth Caffaeliadau yn Ontix: "Daw llwyddiant y rhaglen o ganlyniad i'r cydweithrediad rhwng awdurdodau lleol, partneriaid diwydiant, a'r gymuned i gyd yn gweithio gyda'i gilydd i ddatblygu tirwedd ddigidol glyfar, gynhwysol ac arloesol."

Ewch i digital.swanseabaycitydeal.walesi gael rhagor o wybodaeth am y rhaglen seilwaith digidol.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 16 Mai 2025