Toglo gwelededd dewislen symudol

Teithiau treftadaeth yn boblogaidd iawn gyda phobl sy'n dwlu ar hanes yn Abertawe

Roedd pennod allweddol yn hanes treftadaeth ddiwydiannol bwerus Abertawe'n boblogaidd iawn gyda'r cyhoedd dros y penwythnos.

hafod copperworks tour sept 23

Roedd gwirfoddolwyr sy'n hyrwyddo hanes hen Waith Copr yr Hafod-Morfa yn cynnig teithiau llawn gwybodaeth o ddau adeilad hanesyddol ar y safle - a chafodd y 180 o leoedd eu llenwi'n gyflym.

Cefnogodd Gyngor Abertawe'r digwyddiad - a drefnwyd gan Gyfeillion Gwaith Copr yr Hafod-Morfa - drwy agor Peiriandai Musgrave a Vivian. Roedd y cyngor yn rhan o'r gwaith i'w hachub yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

Maent yn aros am ddatblygiad pellach fel rhan o waith y cyngor i adfywio'r ddinas gwerth £1 biliwn.

Agorwyd y digwyddiad a gynhaliwyd dros y penwythnos yn swyddogol gan Arweinydd y Cyngor, Rob Stewart.Meddai, "Rydym yn bwriadu dechrau defnyddio'r peiriandai yn ystod y blynyddoedd sydd i ddod - rydym wedi sicrhau buddsoddiad i helpu i ddatblygu atyniad treftadaeth i ymwelwyr a chaffi."

Meddai cadeirydd y Grŵp Cyfeillion,Tom Henderson, "Roedd yn gyffrous i groesawu cynifer o bobl i'r peiriandai a warchodwyd yn ddiweddar - mae'r ddau yn rhan allweddol o hanes creu copr yr ardal."

Roedd y digwyddiad yn rhan o gynllun Drysau Agored Cadw. Rhoddwyd cymorth i Ddistyllfa Penderyn a Rowecord Total Access Ltd.

 

Cwm Tawe Isaf oedd prif ganolfan mwyndoddi copr y byd yn ystod y 18fed ganrif. Mae'r cyngor yn arwain ei waith adfywio gyda chymorth partneriaid a chyllid gan ffynonellau megis rhaglen Codi'r Gwastad Llywodraeth y DU.

I gael manylion am ddigwyddiadau yn y dyfodol, e-bostiwch y Cyfeillion.

 

 

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 26 Medi 2023