Toglo gwelededd dewislen symudol

Dweud eich dweud am wasanaethau'r cyngor

Mae preswylwyr yn cael eu hannog i gymryd rhan a dweud eu dweud am wasanaethau a ddarperir gan y cyngor sy'n cyffwrdd â bywydau pobl bob dydd.

swansea from the air1

Mae'r cyngor wedi lansio arolwg newydd i breswylwyr er mwyn cael gwybod beth yw eu barn am wasanaethau a ddarperir gan y cyngor i'w helpu i gynllunio ar gyfer y dyfodol a sicrhau ei fod ar y trywydd iawn i gyflawni blaenoriaethau pobl.

Meddai Rob Stewart, Arweinydd y Cyngor, "Mae ein staff yn ymdrechu bob dydd i ddarparu cannoedd o wasanaethau sy'n gwneud gwahaniaeth ym mhob cymuned.

"Os yw'ch plant yn mynd i ysgolion lleol, rydych yn derbyn gofal cymdeithasol neu gefnogaeth arall, os ydych wedi ymweld â pharc, wedi bod i sioe yn Theatr y Grand neu wedi rhoi gwybod am dwll yn y ffordd, yna byddwch chi neu rywun rydych yn ei adnabod wedi bod mewn cysylltiad â ni.

"Drwy ymuno â'r arolwg i breswylwyr, bydd gennych y cyfle i ddweud wrthym beth rydych chi'n ei feddwl am y gwasanaethau rydym yn eu darparu sydd o bwys i chi. A bydd eich adborth yn ein helpu i gynllunio gwasanaethau'r cyngor ar gyfer y dyfodol.

"Os ydych chi'n byw neu'n gweithio yn Abertawe, yna bydd cymryd rhan yn yr arolwg yn bum munud o amser a dreuliwyd yn dda.

Mae cwestiynau yn yr arolwg yn cwmpasu ystod o feysydd gan gynnwys meddyliau preswylwyr am yr hyn a ddylai fod yn flaenoriaeth i'r cyngor, barn am y gymdogaeth lle maent yn byw, rhwyddineb mynediad at wasanaethau ac ansawdd y gwasanaethau a dderbyniwyd.

Cynhelir yr arolwg tan 29 Hydref a gallwch gyfrannu eich barn drwy glicio ar y ddolen hon: https://www.abertawe.gov.uk/arolwgpreswylwyr

Bydd fersiynau copi caled o'r arolwg ar gael hefyd ym mhob llyfrgell leol ac yn y ganolfan ddinesig.