£21m yn ychwanegol i'w wario ar gefnogi gwasanaethau COVID-19 yn Abertawe
Disgwylir i Gyngor Abertawe wario £21m yn ychwanegol ar gefnogi gwasanaethau COVID-19 hanfodol yn y flwyddyn sydd i ddod, yn ôl adroddiad newydd a fydd yn mynd gerbron y Cabinet yr wythnos nesaf.
Er bod lefel rhybudd Llywodraeth Cymru wedi'i osod ar sero ac mae cymunedau'n addasu i newidiadau wrth i'r wlad ddod allan o'r pandemig, bydd y cyngor yn parhau i fuddsoddi mewn cefnogi pobl y mae'r feirws yn effeithio arnynt.
Yn ôl adroddiad a gymeradwywyd gan y Cabinet ar 16 Medi, mae cyllid y cyngor mewn sefyllfa gref i fynd i'r afael ag ansicrwydd y dyfodol yn sgil COVID-19, Brexit a phwysau chwyddiant eraill.
Ond bydd yn parhau i wario'n drwm ochr yn ochr â'r gwasanaethau iechyd ac asiantaethau eraill i gefnogi preswylwyr y mae COVID-19 yn effeithio arnynt yn ystod y flwyddyn i ddod.
Disgwylir y bydd angen i'r gwasanaethau gofal cymdeithasol wario £11.4m yn ychwanegol i ddelio â phwysau COVID-19 gyda £5m arall yn cael ei wario ar addysg a £5.3m ar wasanaethau mewn rhannau eraill o'r cyngor. Disgwylir i Lywodraeth Cymru ddigolledu'r costau hyn.
Meddai Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe, "Drwy gydol y pandemig a heddiw, drwy'r niferoedd cynyddol o achosion COVID-19 positif, mae'r cyngor wedi bod yno i bobl leol gan eu cefnogi drwy'r pandemig.
"Mae'r adroddiad diweddaraf hwn i'r Cabinet yn dangos, er gwaethaf yr holl bwysau, y gefnogaeth rydyn ni wedi'i rhoi i'r GIG i helpu i gadw pobl yn ddiogel a'r £200m rydyn ni wedi'i wario yn delio â COVID-19 yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, ein bod mewn sefyllfa ariannol gref i oroesi'r heriau sydd o'n blaenau.
"Mae canlyniad Brexit yn cael effaith, mae chwyddiant a'r cynnydd parhaus yn y galw am wasanaethau hanfodol y cyngor, yn enwedig ym maes gofal cymdeithasol i oedolion i gyd yn bwysau ariannol rydym yn parhau i'w hwynebu.
"Rydym wedi trawsnewid gwasanaethau'r cyngor dros y 18 mis diwethaf i sicrhau bod y biniau'n dal i gael eu casglu, bod tyllau yn y ffordd yn cael eu hatgyweirio a bod ein plant yn parhau i gael yr addysg ac unrhyw gefnogaeth arall maen nhw'n ei haeddu.
"Mae prosiectau allweddol a fydd yn gwneud gwahaniaeth enfawr i'n dinas yn y blynyddoedd i ddod, fel rhaglen Bae Copr ac Arena Abertawe, yn dal i wneud cynnydd mawr.
"Rydyn ni'n benderfynol y bydd preswylwyr yn parhau i gael y gwasanaethau cywir ar yr adeg gywir ac yn y ffordd gywir, a rheolaeth ariannol gall o'n hadnoddau dros y misoedd diwethaf sy'n ein galluogi i wneud hyn."
Yn ogystal â'r gwariant ychwanegol ar gefnogaeth mewn perthynas â COVID-19, mae'r cyngor hefyd wedi creu cronfa adferiad gwerth £20m.
Mae'n cael ei gwario ar gefnogi preswylwyr a busnesau yn dilyn y pandemig, ar fentrau sy'n amrywio o fannau chwarae newydd mewn parciau ledled y ddinas, cynnig bysus hynod lwyddiannus yr haf #BysusAmDdimAbertawe a rhewi costau prydau ysgol ar gyfer y flwyddyn ysgol gyfredol.
Mae'r adroddiad Refeniw a Chyfalaf i'r Cabinet yn gipolwg ar berfformiad ariannol y cyngor yn chwarter cyntaf y flwyddyn ariannol gyfredol.
Mae'n amlygu sut y bydd y cyngor yn gwario bron £500m ar wasanaethau dros y flwyddyn nesaf, a pheth o'r gwariant cyfalaf mawr a wneir. Mae hyn yn cynnwys buddsoddi mwy na £3.8m yn y chwarter cyntaf ar bedwar prosiect ysgol yn Ysgol Gyfun Llandeilo Ferwallt, YG Gŵyr a dau adeilad newydd ar gyfer YGG Tan-y-Lan ac YGG Tirdeunaw.
Yn ychwanegol at hynny, gwariwyd £6.7m yn ystod y tri mis diwethaf ar wella tai cyngor gan osod ceginau ac ystafelloedd ymolchi newydd, uwchraddio boeleri a systemau gwresogi a datblygu tai cyngor newydd yng nghymunedau'r ddinas.