Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Gallwch ailgylchu mwy nag erioed y Nadolig hwn

Gall aelwydydd yn Abertawe ailgylchu mwy o wastraff y Nadolig nag erioed eleni.

recycling Xmas 2021 W

Gallwch roi papur lapio heb befr sy'n cadw siâp pêl ar ôl ei wasgu yn y sach werdd papur a cherdyn unwaith eto eleni, yn hytrach nag yn y sach ddu llawn gwastraff ar gyfer tirlenwi.

Ac ar ben hynny, gallwch ailgylchu cardiau Nadolig plaen, carcasau twrci a choed Nadolig go iawn wedi'u torri'n ddarnau ar ymyl y ffordd hefyd.

Atgoffir preswylwyr i ailgylchu cymaint â phosib ac i roi gwastraff na ellir ei ailgylchu'n unig yn eu sachau du dros gyfnod yr ŵyl - byddwch yn siŵr o fod ar restr dda Siôn Corn wedyn.

Bydd dyddiadau ailgylchu a chasglu gwastraff ar draws Abertawe'n newid i ystyried y Nadolig, ond mae'r cyngor yn barod i gasglu digonedd o ailgylchu dros gyfnod y Nadolig a'r flwyddyn newydd.

Dywedodd Mark Thomas, Aelod y Cabinet dros Wella'r Amgylchedd a Rheoli Isadeiledd, y bydd y ffaith bod rhai mathau o bapur lapio a chardiau Nadolig yn gallu cael eu hailgylchu gyda chardbord, papur, caniau a gwydr yn y sachau ailgylchu yn helpu i leihau swm y gwastraff sachau du.

Meddai, "Mae papur lapio'n dod ar ffurf sawl gwahanol math o ddeunydd y mae rhai ohonynt yn cynnwys plastig neu wedi'u gorchuddio â phefr. Dyma'r rheswm pam nad ydym wedi derbyn papur lapio mewn sachau ailgylchu yn y gorffennol.

"Ond os yw'r papur lapio'n rhwygo'n hawdd ac yn cadw siâp pel, gallwch ei roi yn eich sach werdd. Os oes pefr arno neu os nad yw'n aros mewn siâp pêl wrth ei wasgu, nid yw'n addas ar gyfer ailgylchu a bydd angen iddo fynd yn eich sach ddu."

Cyn ei osod yn eich sachau gwyrdd, cofiwch dynnu unrhyw dâp gludiog ac addurniadau fel rhubanau a chlymau gan nad oes modd ailgylchu'r rhain.

Gall preswylwyr hefyd ailgylchu eu coeden Nadolig drwy ei thorri'n darnau a'i rhoi yn y bagiau gwastraff gardd ar ôl cyfnod yr ŵyl, neu gallant fynd â choed mwy i'w canolfannau ailgylchu lleol.

Yn ogystal â newidiadau i gasgliadau ymyl y ffordd, bydd canolfannau ailgylchu prysur y cyngor hefyd yn newid eu dyddiau ac amserau agor felly atgoffir ymwelwyr i wirio'r manylion cyn llenwi eu ceir.

Ceir rhestr lawn o ddyddiadau casglu'r Nadolig yn www.abertawe.gov.uk/gwyliauailgylchu

Gellir dod o hyd i arweiniad llawn ar wastraff ac ailgylchu dros y Nadolig yn Abertawe gan gynnwys newidiadau i ddiwrnodau casglu yn https://www.abertawe.gov.uk/ailgylchunadolig

 

Close Dewis iaith