Gwaith adnewyddu wedi'i drefnu ar gyfer cartrefi tenantiaid ar y Stryd Fawr
Gall preswylwyr mewn dau floc o fflatiau yng nghanol y ddinas edrych ymlaen at waith gwerth miliynau o bunnoedd i adnewyddu cartrefi dros y misoedd nesaf.
Bydd tenantiaid sy'n byw yn fflatiau Croft Street ar y Stryd Fawr a'r cartrefi lefel isel dres nesaf yn elwa o waith gwerth miliynau o bunnoedd a fydd yn adnewyddu'r tu mewn a'r tu allan o'u cartrefi.
Mae Cyngor Abertawe'n paratoi'r trefniadau olaf ar gyfer y cynllun a fydd yn cynnwys gosod ceginau, ystafelloedd ymolchi a chyfarpar atal tân newydd ym mhob cartref yn ogystal â diogelwch o'r radd flaenaf ac offer amddiffyn rhag y tywydd deniadol ar gyfer waliau allanol yr adeilad.
Disgwylir i'r gwaith ddechrau yn hwyrach eleni a phan fydd wedi'i gwblhau bydd cartrefi'r preswylwyr yn edrych yn debyg i gartrefi yn Matthew Street cyfagos lle cwblhawyd gwaith adnewyddu eisoes.
Caiff y gwelliannau i'r cartrefi eu hariannu gan y rhent a dalwyd gan denantiaid y Cyngor a grantiau Llywodraeth Cymru. Ni fydd unrhyw arian yn dod o dreth y Cyngor.