Toglo gwelededd dewislen symudol

Cronfa Galluogi Cymunedau 2023 / 2024

Mae Cyngor Abertawe yn sicrhau bod cyllid 'Galluogi Cymunedau' ar gael.

Mae'r grant hwn yn cyfuno tri chynllun ariannu mewn un grant:

Gall ymgeiswyr wneud cais am un neu ragor o gynlluniau o'r grant hwn.

  • COAST (Creu cyfleoedd ar draws Abertawe gyda'n gilydd)
  • Lleoedd Llesol Abertawe (Canolfannau Clyd)
  • Cronfa Bwyd Gwyliau

1. Pwy sy'n gymwys i ymgeiso?
2. Meini prawf y gronfa
3. Sut i wneud cais
4. Lefelau ariannu
5. Dyddiadau cau
6. Meini prawf ac asesu ceisiadau

 

1. Pwy sy'n gymwys i ymgeisio?

Cyrff cyhoeddus, sefydliadau elusennol neu wirfoddol, y rhai sydd ag amcanion elusennol a sefydliadau nid-er-elw a'r sector preifat.

2. Meini prawf y gronfa

Amlinellir dibenion y cynlluniau cyllido fel a ganlyn:

► COAST (Creu cyfleoedd ar draws Abertawe gyda'n gilydd)

Mae COAST yn rhaglen sy'n seiliedig ar weithgareddau.

Nod COAST yw darparu gweithgareddau am ddim neu fforddiadwy i bobl sy'n preswylio neu'n cael eu cefnogi yn Abertawe.

Bydd y gronfa'n targedu'n benodol weithgareddau ar gyfer plant, pobl ifanc a theuluoedd, a'r rheini sy'n 50+ oed.

I gyflawni hyn, rydym yn darparu cyllid i gyflwyno cyfleoedd a gweithgareddau sydd:

  • Yn rhad ac am ddim ar y pwynt mynediad.
  • Yn cael eu cyflwyno yn ystod gwyliau'r ysgol ac/neu ar benwythnosau tan fis Mawrth 2024
  • Yn hawdd eu cyrraedd ac yn cael eu cynnal o fewn cymunedau lleol.
  • Yn briodol i oedran
  • Cefnogi cydraddoldeb mynediad i bawb.

Mae rhai ystyriaethau wedi eu hamlinellu isod:

  • Sicrhau bod amrywiaeth o weithgareddau cynhwysol, addas i'w hoedran ac sy'n hawdd eu cyrraedd.
  • Cynnig amrywiaeth o weihgareddau chwarae, chwaraeon, diwylliannol ac eraill mewn amrywiaeth o leoliadau.
  • Lle bynnag y bo'n bosibl, dylid cynnal gweithgareddau mewn lleoliadau hygyrch.
  • Dylai ceisiadau prosiect a gyflwynir gan ddarparwyr / grwpiau / clybiau presennol fod yn ychwanegol at weithgareddau neu ddarpariaeth arferol a dylent anelu at dden cynulleidfaoedd newydd.
  • Ni fydd ceisiadau am weithgareddau rheolaidd grŵp gyda'i garfan sefydledig yn llwyddiannus.
  • Ni fydd tripiau / gweithgareddau y tu allan i ardal Dinas a Sir Abertawe yn gymwys i gael cyllid.

► Lleoedd Llesol Abertawe (Canolfannau Clyd )

Mae Lleoedd Llesol yn rhaglen sy'n seiliedig ar le.

Pwrpas y cyllid yw cefnogi'r gwaith o ddarparu mannau diogel a chynnes yn y gymuned leol lle gall pobl fynd i gadw'n gynnes ac elwa o ryngweithio cymdeithasol yn ystod gaeaf 2023 / 24. Mae cost barhaus ynni domestig ynghyd â chwyddiant uchel yn golygu y bydd llawer o bobl yn ei chael hi'n anodd cadw eu cartrefi ar dymheredd iach, yn enwedig y bobl hynny sydd gartref drwy'r dydd, yr henoed a'r rhai sy'n agored i niwed. Cydnabyddir efallai nad yw'r galw am Leoedd Llesol Abertawe yn dod o grwpiau hŷn ne sy'n agored i niwed yn unig, a gall gynnwys eraill sydd gartref drwy'r dydd megis gweithwyr cartref ac unrhyw un sy'n wynebu tiodi tanwydd y gaeaf hwn.

Ni fwriedir i'r cyllid hwn ddisodi neu ddyblygu'r ddarpariaeth bresennol ond ehangu neu ymestyn Lleoedd Llesol Abertawe ar hyn o bryd neu alluogi datblygiad pellach Lleoedd Llesol Abertawe. Dylid defnyddio'r cyllid i gefnogi Lleoedd Llesol Abertawe a'r bobl sy'n eu mynychu'n uniongyrchol ac ar gyfer unrhyw gostau ychwanegol sy'n gysylltiedig â'ch cynllun Lleoedd Llesol Abertawe.

Mae enghreifftiau o wariant cymwys yn cynnwys y canlynol, ond heb fod yn gyfyngedig i'r rhain:

  • darparu lluniaeth, byrbrydau ac, os yw'n berthnasol i'r lleoliad, prydau mwy sylweddol.
  • treuliau ychwangeol sy'n gysylltiedig ag ymestyn oriau agor cyfleusterau presennol neu gyfraniadau i wres a golau os agorir cyfleusterau'n benodol.
  • costau ychwanegol sy'n ymwneud â chostau gianhau, gwaredu sbwriel (e.e. neuaddau cymunedol).
  • offer i gefnogi addasu lleoedd, cadeiriau, byrddau.
  • cyfrannu at gostau'r rhyngrwyd (yn enwedig i gefnogi darpariaeth gwasanaeth cynghori mewn ardaloedd / canolfannau cymunedol) - ni ragwelir y bydd hyn yn cynnwys costau sy'n ymwneud â chaledwedd.
  • cyfleusterau ar gyfer codi tâl ffonau symudol / offer TG.
  • eitemau bach megis tegellau, cwpanau, platiau ac ati.
  • eitmau / gweithgareddau cyfoethogi.
  • cludiant i / o Leoedd Llesol Abertawe - yn dibynnu ar angen lleol.
  • costau gwirfoddolwyr.
  • codi ymwybyddiaeth / hyrwyddo Lleoedd Llesol Abertawe.

► Cronfa Bwyd Gwyliau (Gwyliau Ysgol hyd at 31 March 2024)

Pwrpas y cyllid yw helpu i ddarparu mynediad at fwyd yn ystod gwyliau'r ysgol hyd at 31 Mawrth 2024 ar gyfer plant oed ysgol / y rhai sydd â phlant oed ysgol sy'n cael trafferth gyda chostau.

Rydym am weithio gyda chi i ddarparu cymorth ychwanegol i deuluoedd â phlant i wella mynediad at fwyd o ansawdd da.

Pwrpas y cyllid yw darparu cymorth ychwanegol sy'n helpu i liniaru tlodi bwyd plant ac ansicrwydd bwyd yn ystod gwyliau'r ysgol drwy:

  • Atodi'r gweithgareddau gyda darpariaeth ychwanegol o fwyd / prydau bwyd o answadd da.
  • Darparu pecynnau bwyd, neu fynediad at fwyd (e.e. rhoi talebau bwyd fel y bo'n briodol) y gellir eu cymryd i ffwrdd.

Mae'r gwariant cymwys yn cynnwys (o fewn Abertawe):

  • Costau ar gyfer darparu / paratoi bwyd ychwanegol a ddarperir i'w fwyta mewn digwyddiadau / gweithgareddau / hybliau ac ati.
  • Costau ar gyfer darparu bwyd ychwanegol neu fynediad at fwyd (e.e. talebau bwyd) y gellir eu cymryd i ffwrdd.
  • Costau ychwanegol sy'n gysylltiedig â danfon / caslgu bwyd.
  • Costau gwirfoddoli ychwanegol.

3. Sut i wneud cais

Llenwch y  a rhowch yr wybodaeth ychwanegol angenrheidiol sydd ei hangen.

Gall methu â darparu'r wybodaeth angenrheidiol arwain at oedi wrth asesu neu at wneud y cais yn anghymwys i'w ystyried.

4. Lefelau ariannu

Mae cyllid cyfyngedig ar gael, caiff pob cais ei asesu ar sail ei rinweddau ei hun, gan gynnwys gwerth am arian.

Yn gallaw, byddem yn awgrymu mai'r uchafswm y gofynnir amdano ar gyfer pob cynllun yw:

COAST - £5,000
Lleoedd Llesol Abertawe - £3,000
Cronfa Bwyd Gwyliau - £2,000

Os hoffech drafod eich cais cyn cyflwyno, cysylltwch â tacklingpoverty@abertawe.gov.uk

Bydd angen gwario'r cyllid erbyn 31 Mawrth 2024.

5. Dyddiadau cau

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw dydd Sul 26 Tachwedd 2023.

6. Meini prawf ac asesu ceisiadau

Caiff pob cais ei asesu o ran y meini prawf isod a bydd gofyn i ymgeiswyr ddangos:

  • Statws sefydliadol / amcanion elusennol.
  • Y bydd y cyllid yn mynd i'r afael â meini prawf y gronfa ac yn diwallu angen / anghenion a nodwyd.
  • Nifer y buddiolwyr.
  • Hygyrchedd a chyfle cyfartal.
  • Dadansoddiad ariannol llawn o'r cyllid y gofynnir amdano.
  • Gwerith am arian.

 

Gwerthusiad prosiect y Gronfa Galluogi Cymunedau

Rhaid llenwi'r ffurflenni gwerthuso yn unol â chyllid COAST, cyllid Lleoedd Llesol Abertawe a chyllid Bwyd yn ystod gwyliau'r ysgol.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 23 Mai 2024