Toglo gwelededd dewislen symudol

Hwyl am ddim yn ystod hanner tymor diolch i leoliadau diwylliannol y ddinas

Mae rhai o brif leoliadau diwylliannol Abertawe yn gwneud popeth y gallant i helpu teuluoedd drwy'r argyfwng costau byw yr hanner tymor hwn.

Glynn Vivian

Byddant yn cynnig ystod eang o hwyl am ddim i rieni sydd dan bwysau.

Mae gan y lleoliadau, sy'n cael eu rhedeg gan Gyngor Abertawe, enw da am ddarparu gweithgareddau hygyrch a fforddiadwy drwy gydol y flwyddyn.

Meddai Aelod Cabinet y cyngor, Elliott King, "Mae gweithgareddau am ddim yn hanfodol ar adeg fel hon - maen nhw'n helpu i gadw pobl ifanc yn brysur ac yn heini ac yn helpu teuluoedd i wario'r harian ar bethau hanfodol fel gwresogi a phrynu bwyd."

Mae ysgolion yn cau ar gyfer hanner tymor ar 28 Hydref ac yn dychwelyd ar 7 Tachwedd.

Yn ystod y cyfnod hwnnw mae digon i'w fwynhau mewn lleoliadau fel Oriel Gelf Glynn Vivian, Amgueddfa Abertawe a Chanolfan Dylan Thomas - yn ogystal â'u harddangosfeydd a'u harddangosiadau parhaus.

Mae gweithgareddau am ddim eraill a drefnir gan y cyngor yn cynnwys Ysbrydion yn y Ddinas yn Sgwâr y Castell ar 29 Hydref, gweithgareddau Marchnad Abertawe ar yr un diwrnod ac - ar 5 Tachwedd - yr arddangosfa tân gwyllt flynyddol, a fydd yn goleuo Bae Abertawe.

Rhagor:

Llun: Glynn Vivian