Toglo gwelededd dewislen symudol

Cwestiynau cyffredin am wasanaethau DesignPrint

Rydym wedi casglu rhai o'r cwestiynau mwyaf cyffredin er mwyn ceisio'ch helpu gydag unrhyw ymholiadau sydd gennych.

Nid oes gennyf syniad pendant am yr hyn y mae ei angen arnaf.

Mae staff DesignPrint yn ymroddedig i wasanaeth cwsmeriaid. Hyd yn oed os nad ydych am archebu gwaith gyda ni, byddem yn barod iawn i drafod unrhyw faterion sy'n ymwneud ag argraffu sydd gennych. Yn wir, byddem yn eich annog i drafod eich gofynion cyn gwneud unrhyw benderfyniadau ar y math o argraffu y mae ei angen arnoch - efallai byddem yn gallu arbed amser ac arian i chi. Mae DesignPrint yn wasanaeth dan berchnogaeth yr Awdurdod ac felly nid gwneud elw yw ei nod.

Ni allaf feddwl am unrhyw syniadau.

Peidiwch â cheisio dylunio eich taflen eich hun trwy ddefnyddio pecyn swyddfa, megis Microsoft Word. Yn anffodus, nid yw hyn cystal wrth gynhyrchu gwaith argraffu ag y mae ar gyfer gwaith swyddfa. Gallech fod yn gwastraffu amser gwerthfawr yn creu dyluniad ar eich pen eich hun pan y gallai dyluniwr wedi'i hyfforddi'n llawn wneud y gwaith drosoch. Dewch atom â syniad am yr hyn y mae ei angen arnoch, unrhyw luniau sydd gennych ac, os bydd modd, y testun ar ddisg, a thrafod eich gofynion â dylunydd wyneb i wyneb.

Beth am ansawdd fy lluniau?

Weithiau gall ansawdd lluniau arwain at lyfryn siomedig. Po orau yw'r llun, gorau'r ansawdd y gallwn ei argraffu ohono. Fodd bynnag, mae'n well defnyddio llun sy'n berthnasol i'r llyfryn er mwyn i ni allu ei wella neu ychwanegu effaith at lun i'w wella ychydig os oes angen.

Os nad oes modd i chi gyflenwi lluniau, mae DesignPrint yn cynnig catalog o luniau stoc i wella pob math o gyhoeddiad. Er gall eu perthnasedd â phwnc arbennig fod yn gyfyngedig.

A allaf ddefnyddio lluniau digidol?

Gallwch, wrth gwrs. 

Perygl arall gyda lluniau digidol yw cydraniad y sgrîn. Dylai'r llun fod yn 300 dpi (dot y fodfedd) o ran y maint go iawn ar ôl ei argraffu. Mae hyn yn golygu, os bydd y llun yn cael ei chwythu i ddwywaith ei faint, dylai'r cydraniad hefyd fod dwywaith ei faint, sef 600 dpi.
Trafodwch hyn gyda'r dylunydd cyn tynnu'r lluniau os yn bosib.

Mae gan luniau a gymerwyd oddi ar y we gydraniad isel fel arfer ac felly nid ydynt yn addas ar gyfer dibenion argraffu. Gall hefyd fod angen ystyried hawlfraint gyda'r rhain. Os ydych yn amau, mae'n well peidio eu defnyddio.

A allaf wirio'r gwaith cyn iddo gael ei argraffu?

Byddwch yn derbyn proflen i'w darllen a bydd y cyfnod prawf-ddarllen yn parhau nes bod y gwaith wedi'i gwblhau i'ch boddhad. Pan fyddwch yn fodlon i'r gwaith gael ei argraffu, llofnodwch eich enw ar daflen y broflen a ddarperir a'i ffacsio neu'i dychwelyd i'ch dylunydd ynghyd â'r broflen.

Faint o amser mae angen ei roi i DesignPrint gwblhau fy ngwaith?

Hyd yn oed pan fydd gennych y bwriad cywir, mae'n hawdd gadael dylunio ac argraffu fel ôl-ystyriaeth.
Cysylltwch ag un o'n tîm os oes angen cyngor arnoch am amserlenni. Mae pob dyluniad ar gyfer pob digwyddiad yn wahanol ac mae rhai syniadau'n cymryd amser hwy i'w creu nag eraill.

Cofiwch y gall gwaith cyfieithu dogfennau dwyieithog gymryd amser i'w gwblhau a'i wirio weithiau.

 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 13 Awst 2021