Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Cwestiynau cyffredin am gŵn strae

Dewch o hyd i atebion i'r cwestiynau mwyaf cyffredin rydym yn eu derbyn am gŵn strae.

Sylwer: amcangyfrifon yw rhai o'r ffigurau.

Faint o gŵn crwydr/sâl rydych chi wedi eu hatafaelu?

2022/23 - 214
2021/22 - 290
2020/21 - 206
2019/20 - 505
2018/19 - 635

Faint o gŵn rydych chi wedi eu dychwelyd i'w perchnogion gwreiddiol? (Mae hyn yn cynnwys dychwelyd cŵn i'w perchennog heb eu ffaldio yn ogystal â'r rheiny sydd wedi'u ffaldio a'u hawlio gan eu perchennog)

2022/23 - 141
2021/22 - 89
2020/21 - 78
2019/20 - 157
2018/19 - 201

Faint o gŵn rydych chi wedi'u hailgartrefu gyda pherchennog newydd?

2022/23 - 9
2021/22 - 2
2020/21 - 3
2019/20 - 11
2018/19 - 14

Faint o gŵn rydych chi wedi'u hailgartrefu drwy asiantaeth elusen?

2022/23 - 58
2021/22 - 22
2020/21 - 34
2019/20 - 100
2018/19 - 114

Faint o gŵn rydych chi wedi'u rhoi i gysgu?

2022/23 - 6
2021/22 - 0
2020/21 - 0
2019/20 - 0
2018/19 - 1

Pa resymau a fyddai gennych i roi ci i gysgu?

Mae cŵn yn cael eu rhoi i gysgu ar sail cyngor gan filfeddyg am resymau iechyd neu ymddygiad yn unig.

Pa bum brîd o gŵn a gafodd eu hatafaelu amlaf?

2022/23 - Daeargi, Ci Tarw, Daeargi Jack Russell, Daeargi Tarw Swydd Stafford, Ci defaid
2021/22 - Daeargi Jack Russell, Daeargi Tarw Swydd Stafford, Hysgi X, Ci Alsás (Alsesian)
2020/21 - Daeargi Jack Russell, Daeargi Tarw Swydd Stafford, Hysgi X, Ci Alsás (Alsesian)
2019/20 - Daeargi Jack Russell, Daeargi Tarw Swydd Stafford, Hysgi X, Ci Alsás (Alsesian)
2018/19 - Daeargi tarw Stafford, Ci Tarw, Ci defaid

Pa bum brîd o gŵn a gafodd eu rhoi i gysgu amlaf?

2022/23 - dd/b
2021/22 - dd/b
2020/21 - dd/b
2019/20 - dd/b
2018/19 - Daeargi, Ci Tarw, Daeargi tarw Stafford

Faint o Orchmynion Rheoli Cŵn sydd ar waith gennych?

Dim.

Close Dewis iaith