Toglo gwelededd dewislen symudol

Timau glanhau mannau problemus wedi ymweld â phob ward yn 2024

Mae timau yn Abertawe sy'n helpu preswylwyr i gadw eu cymunedau'n daclus wedi ymweld â bron i 1,000 o fannau problemus o ran tynnu chwyn a thaflu sbwriel dros y flwyddyn ddiwethaf.

CWOT august 24

Mae Timau Gweithredol Glanhau Wardiau poblogaidd Cyngor Abertawe wedi ymweld â phob cymuned, gan ymateb i alwadau gan gynghorwyr lleol, drwy dargedu gordyfiant, dadorchuddio llwybrau troed sydd wedi ildio i natur, yn ogystal â chlirio sbwriel a sicrhau bod arwyddion strydoedd a ffyrdd yn lân ac y gellir eu darllen yn haws.

Lansiodd Cyngor Abertawe fenter y Timau Gweithredol Glanhau Wardiau dros ddwy flynedd yn ôl ac maent yn ymgymryd â gwaith gwell nad yw'n rhan o'u rolau glanhau arferol yn y ddinas.

Mae'r cyhoedd yn chwarae eu rhan drwy roi gwybod am faterion i'w cynghorydd lleol, sydd wedyn yn cysylltu â gwasanaeth y Timau Gweithredol Glanhau Wardiau. Mae pob ward yn Abertawe wedi derbyn nifer o ymweliadau dros y flwyddyn ddiwethaf.

Mae'r safleoedd yr ymdriniwyd â hwy dros y flwyddyn ddiwethaf wedi arwain at lanhau palmentydd a grisiau, torri gordyfiant gwyrddlesni a chael gwared ar gannoedd o dunellau o lystyfiant, yn ogystal â rhoi bywyd newydd i lonydd ac aleau rhwng tai ac oddi ar y llwybr arferol.

Os ydych chi'n meddwl bod ardal yn eich ward lle gall y Timau Gweithredol Glanhau Wardiau helpu, rhowch wybod i'ch cynghorydd lleol fel y gall gyflwyno'r gwaith i'r tîm ei gwblhau ar eu hymweliad nesaf.

Gallwch hefyd ddod o hyd i restr sy'n cynnwys eich cynghorwyr lleol yma www.abertawe.gov.uk/cynghorwyr

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 18 Rhagfyr 2024