Toglo gwelededd dewislen symudol

Cyfamod y Lluoedd Arfog

Nod y Cyfamod y Lluoedd Arfog yw annog cymunedau lleol i gefnogi'r gymuned wasanaethu yn eu hardal a meithrin dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth ymhlith y cyhoedd am faterion sy'n effeithio ar gymuned y Lluoedd Arfog.

Addewid gan y genedl

Mae'r Cyfamod yn addewid gan y genedl sy'n sicrhau bod y rheini sy'n gwasanaethu neu sydd wedi gwasanaethu yn y Lluoedd Arfog, a'u teuluoedd, yn cael eu trin yn deg a'u bod ddim dan anfantais yn eu bywydau bob dydd. 

 

Rydym yn falch o gefnogi'r rheini sy'n gwasanaethu

Ar gyfer Cyngor Abertawe a sefydliadau partner, mae Cyfamod y Lluoedd Arfog yn cyflwyno cyfle i ddod â'u gwybodaeth, eu profiad a'u harbenigedd at ei gilydd er mwyn cynorthwyo drwy ddarparu help a chyngor i aelodau o gymuned y Lluoedd Arfog. 

I ddarganfod beth yw Cyfamod y Lluoedd Arfog, darllenwch y cyflwyniad sefydlu isod. 
Cyfamod y Lluoedd Arfog (covenentfund.org) (Yn agor ffenestr newydd)

 

Cysylltiadau Allweddol ar gyfer Cyngor Abertawe

  • Hyrwyddwr y Lluoedd Arfog yw'r Cynghorydd Wendy Lewis
  • Aelod y Cabinet dros Ddiwylliant, Hawliau Dynol a Chydraddoldeb yw'r Cynghorydd Elliot King
  • Y Swyddog Arweiniol ar gyfer Cyfamod y Lluoedd Arfog yw Spencer Martin 
  • I gysylltu â thîm Cyngor Abertawe, e-bostiwch CyfamodYLluoeddArfog@abertawe.gov.uk
  • Er mwyn cysylltu â  Swyddog Cyswllt Rhanbarthol Cyfamod y Lluoedd Arfog, Finola Pickwell, e-bostiwch  LLuoeddArfog@npt.gov.uk

Sut gallaf ddod o hyd i'r help sydd ei angen arnaf? 

Mae amrywiaeth eang o wasanaethau a ddyluniwyd yn arbennig ar gyfer cymuned y lluoedd arfog sydd ar gael gan y llywodraeth leol, Y Weinyddiaeth Amddiffyn a sefydliadau'r trydydd sector. 

Gweler isod ddolenni i borth y lluoedd arfog ar gyfer cyn-filwyr, y Llyfrgell Gwasanaethau'r Lluoedd Arfog lleol a chysylltiadau a dolenni allweddol eraill

 

Ymddiriedolaeth Cronfa Cyfamod y Lluoedd Arfog

Mae Ymddiriedolaeth Cronfa Cyfamod y Lluoedd Arfog (convenantfund.org) (Yn agor ffenestr newydd) yn dyfarnu grantiau drwy raglenni ariannu penodol, y mae gan bob un ohonynt ei nod(au) ei hun sy'n aml yn seiliedig ar ymgynghori â'r gymuned.

 

Sefydliadau sydd wedi llofnodi Cyfamod y Lluoedd Arfog

Chwilio am fusnesau sydd wedi llofnodi Cyfamod y Lluoedd Arfog (Yn agor ffenestr newydd)

Llyfrgell Gwasanaethau'r Lluoedd Arfog

Dewch o hyd i gyngor, grwpiau a chyfleoedd.

Tudalen Cysylltiadau Allweddol

Sefydliadau a all ddarparu gwybodaeth ddefnyddiol.

Cronfa Cyn-filwyr y Lluoedd Arfog Abertawe 2023/24

Mae cyllid wedi dod ar gael i Abertawe o gyllideb Arweinydd y Cyngor, y Cyng. Rob Stewart, i gefnogi cyn-filwyr.

Defence Discounts

Yn cefnogi Lluoedd Arfog, Cyn-filwyr a Chymuned y Lluoedd Arfog y DU.