Toglo gwelededd dewislen symudol

Ceisiadau cynllunio HMO

Gwybodaeth am HMOs (tŷ amlfeddiannaeth) a'u proses gynllunio.

Prawf crynhoad HMO

Bydd pob cynnig a gyflwynir i newid defnydd eiddo a sefydlu HMO newydd yn amodol ar Bolisi H 9 y Cynllun Datblygu Lleol, sy'n nodi nifer o feini prawf y dylai cynigion HMO eu hystyried. Mae'r CDLl ar gael i'w lawrlwytho yn www.abertawe.gov.uk/cdll.

Hefyd, caiff cynigion eu hystyried yn erbyn y Canllawiau Cynllunio Atodol a fabwysiadwyd gan y cyngor ac sy'n ymdrin â Thai Amlfeddiannaeth a Llety Pwrpasol i Fyfyrwyr sydd ar gael yn www.abertawe.gov.uk/cca.

Dylid rhoi ystyriaeth lawn i'r holl feini prawf perthnasol er mwyn penderfynu os yw cynnig yn dderbyniol. Mae sawl meini prawf yn gosod profion a fydd yn llywio'r broses o benderfynu a fyddai'r cynnig yn golygu y gallai nifer yr HMOs fod yn niweidiol. Nodir y rhain isod:

Prawf 1 - 'prawf radiws'

  • O fewn yr Ardal Rheoli HMOs ddiffiniedig (a ddangosir ar Fap Cynigion y CDLl), ni ddylai cynigion HMO arwain at ddefnyddio dros 25% o'r holl eiddo preswyl o fewn radiws 50 metr o'r cynnig fel HMOs.
  • Y tu allan i'r Ardal Rheoli HMO, ni ddylai cynigion HMO arwain at newid dros 10% o'r holl eiddo preswyl o fewn radiws 50m o'r cynnig yn HMOs.

Prawf 2 - 'prawf stryd fechan'

  • Ni chaiff cynigion ar gyfer HMO ar 'strydoedd bach' nad ydynt yn torri terfyn y trothwy radiws 50m eu cefnogi os byddai'r cynnig yn creu gormod o HMOs ar y stryd honno.

Prawf 3 - 'prawf peidio â gwasgu'

  • Ni fyddai'r datblygiad yn arwain at annedd Dosbarth C3 yn cael ei 'gwasgu' rhwng eiddo HMO cyfnesaf.

Cyn i chi gyflwyno cais cynllunio, gallwch wneud cais i gynnal y prawf crynhoad HMO ar eich eiddo. I wneud cais am y Prawf Cryhnoad HMO am gost o £95 y cais, cysylltwch â'r Tîm Cynllunio Strategol drwy ffonio 07814 105625 neu drwy e-bostio CDLl@abertawe.gov.uk.

Sylwer ni ddylid defnyddio canlyniad y Prawf Crynhoad fel cadarnhad y bydd eich cais HMO yn cael caniatâd cynllunio neu beidio. Diben y prawf yw penderfynu, ar yr adeg benodol y cynhelir y prawf, os yw'r eiddo'n bodloni tair elfen y prawf crynhoad a restrir uchod.

Gall canlyniadau'r prawf newid dros amser os caiff HMOs newydd eu sefydlu er enghraifft, ac/neu os ceir gwybodaeth newydd ynghylch natur yr eiddo yn yr ardal.

Bydd angen i gais cynllunio ynghylch newid defnydd fodloni gofynion polisi eraill hefyd, gan gynnwys a yw'r eiddo'n addas i'w ddefnyddio fel HMO, oes ganddo amodau byw boddhaol a lle digonol ar gyfer amwynderau, ac a yw'r eiddo'n bodloni'r safonau angenrheidiol o ran parcio cerbydau a beiciau.

Ceisiadau cynllunio tai amlfeddiannaeth cymeradwy

Rhestr lawn o'r eiddo a roddwyd caniatâd i fod yn dai amlfeddiannaeth (HMO).

Cofrestr gyhoeddus Tai Amlbreswyl (TAB)

Yn ôl Deddf Tai 2004, mae'n ofynnol i bob awdurdod lleol gadw cofrestr gyhoeddus o adeiladau a drwyddedir fel TAB.

Tai amlbreswyl

Tŷ Amlfeddiannaeth yw eiddo sy'n cael ei rentu gan o leiaf 3 pherson nad ydynt yn ffurfio 'aelwyd', e.e. teulu, ond maent yn rhannu cyfleusterau fel yr ystafell ymolchi a'r gegin.