Dewch i archwilio'r lleoliadau Awyr Dywyll gorau ym Mhenrhyn Gŵyr
Mae Cymru'n lwcus iawn o ran awyr dywyll ac mae'r rheini a welir dros Benrhyn Gŵyr yn cael eu hystyried ymhlith y goreuon yn y wlad ar gyfer y bobl sy'n mwynhau gwylio'r sêr.
Mae'r traethau diarffordd a'r tiroedd comin gwledig yn rhydd o ymyrraeth fodern a all rwystro darpar seryddwyr. Ar noson glir gallwch ryfeddu ar yr awyr wrth wrando ar y tonnau yn y pellter, neu ambell ddafad yn brefu...
Cymuned Awyr Dywyll Ryngwladol
Newyddion gwych ar gyfer Tirwedd Genedlaethol Gŵyr! Mae wedi cael ei chydnabod yn swyddogol fel Cymuned Awyr Dywyll Ryngwladol gan DarkSky International, sefydliad byd-eang sy'n ymroddedig i arddangos y buddion y mae cefn gwlad gyda'r nos yn eu rhoi i fywyd gwyllt, yr amgylchedd a thwristiaeth.
Gŵyr yw'r ardal gyntaf erioed yn ne Cymru i ennill y statws hwn, ac mae'n dipyn o gamp oherwydd mae'r awyr uwchben 99% o Ewrop ac UDA bellach wedi'i llygru gan olau.
Mae mesurau fel defnyddio llusernau LED sy'n cydymffurfio â rheoliadau awyr dywyll ar gyfer yr holl oleuadau stryd yng Ngŵyr ac arweiniad ynghylch goleuo ar gyfer cynllunio wedi cyfrannu at leihau llygredd golau yng Ngŵyr er mwyn ennill yr anrhydedd mawreddog hwn.
Gwybodaeth: https://www.abertawe.gov.uk/digwyddiadauamgylcheddolchwefror