Toglo gwelededd dewislen symudol

Ystadegau twristiaeth Abertawe: Sut mae niferoedd yn datgelu stori lwyddiant

Mae Cynllun Rheoli Cyrchfannau newydd Cyngor Abertawe - a gyflwynwyd i Gabinet llywodraethol y cyngor ar 19 Hydref - yn dangos pwysigrwydd y diwydiant twristiaeth i'r economi leol a sut mae'n cefnogi busnesau a chyflogaeth ar draws yr ardal.

Langland beach huts

Mae'r cynllun diweddaraf yn ymateb cyfunol gan y cyngor a'i bartneriaid yn y sector preifat a chyhoeddus yn dilyn ailagor y diwydiant twristiaeth a lletygarwch ar ôl COVID.

Mae'n canolbwyntio ar flaenoriaethau strategol ar gyfer y pedair blynedd nesaf sef gwella ansawdd, lleihau tymoroldeb, annog cynaladwyedd a meithrin gweithio mewn partneriaeth.

Bydd y cynllun sy'n seiliedig ar ymchwil fanwl yn helpu'r cyngor a'i bartneriaid i arwain, dylanwadu ar a chydlynu'r gwaith o reoli pob agwedd ar yr ardal sy'n cyfrannu at brofiad ymwelydd.

Mae ymchwil ddiweddar wedi dangos bod mwy na phedair miliwn o bobl wedi ymweld â Bae Abertawe a Gŵyr y llynedd, gan dreulio oddeutu pum noson ar gyfartaledd yn yr ardal.

Rhagor Croeso Bae Abertawe - www.croesobaeabertawe.com

 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 19 Hydref 2023