Ystadegau twristiaeth Abertawe: Sut mae niferoedd yn datgelu stori lwyddiant
Mae adroddiad newydd wedi datgelu pa mor hanfodol yw twristiaeth i economi Abertawe.
Mae cynllun rheoli cyrchfannau newydd Cyngor Abertawe, a fydd yn cael ei gyflwyno gerbron Cabinet rheoli'r cyngor ar 19 Hydref, yn cynnwys llu o dystiolaeth ystadegol sy'n dangos pa mor bwysig yw'r sector amrywiol hwn sy'n esblygu'n barhaus.
Mae'n cynnwys ffeithiau fel yr ymwelodd mwy na phedair miliwn o bobl â'r ardal y llynedd, roedd bron pawb a lenwodd yr holiadur wedi adrodd bod yr ymweliad yn "bleserus" neu'n well, a nifer cyfartalog y nosweithiau a dreuliodd ymwelwyr yn Abertawe oedd tua phump.
Dros yr wythnosau diwethaf, mae'r cyngor wedi cyhoeddi bod gwerth blynyddol twristiaeth i economi Bae Abertawe - Abertawe, Y Mwmbwls a Phenrhyn Gŵyr - wedi cyrraedd £500m am y tro cyntaf erioed. Mae'r diwydiant yn cefnogi 5,190 o swyddi.
Mae gweithgarwch marchnata twristiaeth Cyngor Abertawe'n hyrwyddo'r ardal fel cyrchfan drwy gydol y flwyddyn.
Mae'r cynllun rheoli cyrchfannau yn helpu'r cyngor i arwain, cydlynu a dylanwadu ar reoli pob agwedd ar yr ardal sy'n cyfrannu at brofiad yr ymwelydd. Mae'n seiliedig ar ymchwil fanwl.
Mwy Croeso Bae Abertawe - www.croesobaeabertawe.com