Toglo gwelededd dewislen symudol

Sesiynau galw heibio digidol i ddechreuwyr - am ddim bob dydd Mawrth, trosglwyddwch y neges.

Ydych chi'n adnabod rhywun y mae angen help arno i ddefnyddio cyfrifiaduron a'r rhyngrwyd?

Library

Os felly, Llyfrgell Ganolog Abertawe yw'r lle i fynd ar ddydd Mawrth rhwng 10.30 - 12.30.

Bob dydd Mawrth, mae tîm y llyfrgell a hyrwyddwyr digidol Cyngor Gwasanaeth Gwirfoddol Abertawe yn cynnal sesiynau i ddechreuwyr sydd am fynd i'r afael â'r rhyngrwyd fel y gallant ei ddefnyddio i brynu pethau, cadw mewn cysylltiad â ffrindiau, talu biliau neu hyd yn oed archebu gwyliau.

A chofiwch fod cyfrifiaduron ar gael am ddim ym mhob un o'r 17 o lyfrgelloedd, ynghyd â mynediad am ddim at y rhyngrwyd.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 05 Rhagfyr 2024