Toglo gwelededd dewislen symudol

Penwythnos llawn ffilmiau eiconig

Ym mis Gorffennaf, caiff dwy ffilm haf fythgofiadwy eu dangos yn Abertawe yn ystod penwythnos penigamp o dan y sêr.

singleton park cinema promo dirty dancing

Dechreuwch eich penwythnos gyda chlasur go iawn o'r 1980au, sef Dirty Dancing, nos Sadwrn 26 Gorffennaf. Dewch i ail-fyw'r rhamant a'r cyffro wrth i Baby a Johnny gwympo mewn cariad wrth ddawnsio yng nghyrchfan gwyliau Kellerman's yn haf 1963.

Yna, nos Sul 27 Gorffennaf, byddwn yn dathlu 50 mlynedd ers rhyddhau Jaws drwy ddangos y ffilm honno, sy'n siŵr o dynnu dŵr o'ch dannedd. Cewch gyfle i ddychwelyd i Amity Island ac ymuno â Brody, Quint a Hooper ar fwrdd yr Orca wrth iddynt hela'r siarc gwyn mawr a newidiodd ddiwydiant sinema'r haf am byth.

Bydd y nosweithiau hyn yn brofiad sinematig perffaith i bawb o bob oedran sy'n dwlu ar ffilmiau. P'un a ydych yn gwylio'r ffilmiau hyn am y tro cyntaf neu'r canfed tro, byddwch yn mynd yn syth o foethusrwydd y Cae Lacrosse, Parc Singleton, yn Abertawe i ganol y cyffro.

Meddai'r Cynghorydd Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Fuddsoddi, Adfywio, Digwyddiadau a Thwristiaeth, "Rydym wrth ein boddau bod y sinema awyr agored yn dychwelyd i Barc Singleton, gan gynnig profiadau ar y cyd a straeon bythgofiadwy, ynghyd â dangos mai ein dinas ni yw'r lle perffaith i'w mwynhau.

"Dyma'r cyfle perffaith i weld dwy o'r ffilmiau mwyaf yn hanes Hollywood ar y sgrîn fawr."

Gallwch brynu tocyn safonol am £15, neu dalu £25 am docyn premiwm sy'n cynnwys mynediad cyflym, cadair gynfas mewn lleoliad gwylio gwych (nid yn y gornel), a blanced i'w benthyg am y noson (os bydd yn oer, bydd angen cot fwy arnoch!). Bydd modd parcio yn y Rec am ddim ar gyfer y digwyddiad hwn.

Mae tocynnau ar werth nawr yn croesobaeabertawe.com 

Prynwch eich tocynnau heddiw a pharatowch am benwythnos llawn ffilmiau gwych!

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 06 Mehefin 2025