Toglo gwelededd dewislen symudol

'Tŷ llawn' wrth i ddisgyblion ddathlu amrywiaeth y ddinas

Roedd dros 100 o ddisgyblion ac athrawon o 24 ysgol wahanol yn Abertawe yn bresennol mewn cynhadledd yn stadiwm Swansea.com heddiw i ddathlu amrywiaeth diwylliannol a chrefyddol gyfoethog y ddinas.

schools diversity conference

schools diversity conference

Cymerodd disgyblion ran mewn ymarferion a gweithdai drwy gydol y dydd â'r bwriad o hyrwyddo a chefnogi cynwysoldeb ar gyfer pobl o bob hil, diwylliant a chrefydd.

Byddant nawr yn dychwelyd i'w hysgolion lle byddant yn cael eu cefnogi i ddod yn llysgenhadon dros amrywiaeth a chynwysoldeb wrth i ysgolion chwarae eu rhan mewn helpu i gyflawni addewid Llywodraeth Cymru i fod yn Gymru Wrth-hiliol.

Cynhaliwyd y gynhadledd yn ystod yr un wythnos ag y lansiwyd arweiniad Hawliau yn eich Poced wrth i Abertawe symud tuag at ddod yn Ddinas Hawliau Dynol.

Meddai Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Addysg, Robert Smith, "Hoffwn longyfarch y rheini a drefnodd y digwyddiad hwn ac rwy'n falch bod cynifer o'n hysgolion wedi'i gefnogi."

"Mae bron 150 o ieithoedd gwahanol yn cael eu siarad yn Abertawe ac mae'n bwysig bod ein pobl ifanc yn croesawu ac yn dathlu'r amrywiaeth hon yn ein hysgolion."

"Rwy'n siŵr bod y diwrnod wedi ysbrydoli a chefnogi disgyblion ac athrawon fel ei gilydd."

Meddai Jeremy Miles: "Mae ein Cwricwlwm newydd i Gymru'n cael ei addysgu mewn ysgolion ar draws Cymru o'r tymor hwn a bydd yn cefnogi dysgwyr i ddod yn ddinasyddion moesegol a gwybodus yng Nghymru a'r byd.

"Roedd yn wych cwrdd â'r disgyblion yn Abertawe heddi a fydd yn llysgenhadon arbennig ar gyfer parch a harmoni yn eu hysgolion."

Close Dewis iaith