Toglo gwelededd dewislen symudol

Cadwch yn glir o'r dŵr os ydych ar noson allan dros y gaeaf

Mae tymor y partïon Nadolig wedi cyrraedd ac rydym yn atgoffa preswylwyr Abertawe unwaith eto ynghylch peryglon yfed gormod o alcohol yn rhy agos at y dŵr.

Swansea at night

 Mae ymgyrch barhaus 'Peidiwch ag yfed a boddi' Cymdeithas Frenhinol Achub Bywyd y DU (RLSS), yn cael ei chefnogi gan Gyngor Abertawe, Heddlu De Cymru, sefydliadau myfyrwyr lleol a sefydliadau partner eraill yn y ddinas.
 
Mae gan oddeutu 20% o'r oedolion sydd wedi boddi ar ddamwain yn y DU alcohol yn eu gwaed a dangosodd ymchwil gan yr RLSS fod oedolion 18 i 21 oed yn arbennig o agored i'r perygl o foddi ar ddamwain ar ôl yfed gormod.

Meddai Andrew Stevens, Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd ac Isadeiledd, "Rydym am i breswylwyr ac ymwelwyr fwynhau eu nosweithiau allan dros y Nadolig yn Abertawe, ond rydym am iddynt wneud hynny'n ddiogel.
 
"Rydym yn annog pobl i gofio am y peryglon oherwydd yfed gormod o alcohol os ydynt yn cerdded adref wrth ymyl y dŵr neu'n agos at y dŵr ar ôl noson allan. Rydym hefyd yn galw ar bobl i gadw llygad ar eu ffrindiau i wneud yn siŵr eu bod yn cyrraedd adref yn ddiogel."
 
Cymerwch gip ar wefan www.rlss.org.uk i gael rhagor o wybodaeth neu galwch heibio'r siop gwybodaeth dan yr unto yng Nghanolfan Siopa'r Cwadrant os ydych yng nghanol y ddinas.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 19 Rhagfyr 2024