Toglo gwelededd dewislen symudol

Systemau Draenio Cynaliadwy (SDCau)

Bydd angen draenio cynaliadwy ar bob datblygiad newydd sy'n cynnwys mwy nag un tŷ, neu sy'n cynnwys arwynebedd adeiladu o 100 o fetrau sgwâr neu fwy, i reoli dŵr arwyneb ar y safle.

Rhaid i systemau draenio fod wedi eu dylunio a'u hadeiladu yn unol â safonau gofynnol ar gyfer draenio cynaliadwy a gyhoeddwyd gan Weinidogion Cymru.

Rhaid i'r systemau hyn gael eu cymeradwyo gan yr awdurdod lleol yn gweithredu yn ei rôl fel Corff Cymeradwyo SDCau (CCS) cyn y bydd gwaith adeiladu'n dechrau. Bydd dyletswydd ar CCS i fabwysiadu systemau sy'n cydymffurfio, cyhyd a'i fod wedi ei adeiladu ac yn gweithredu yn unol â'r cynigion a gymeradwywyd, gan gynnwys unrhyw amodau cymeradwyaeth CCS.

  1. Pa ddeddfwriaeth ydym ni'n cyfeirio ati?
  2. Beth yn union yw CCS?
  3. Beth mae'n ei olygu ar gyfer fy natblygiad?
  4. Sut ydw i'n ceisio cymeradwyaeth CCS?
  5. Ffïoedd
  6. Sut ydw i'n cysylltu gyda fy CCS?

 

Pa ddeddfwriaeth ydym ni'n cyfeirio ati?

Mae Atodlen 3 Deddf Rheoli Llifogydd a Dŵr (DRhLlD) 2010 yn gorchymyn systemau draenio dŵr wyneb ar gyfer datblygiadau newydd i gydymffurfio â Safonau Cenedlaethol ar gyfer draenio cynaliadwy (SDCau). Caiff y safonau statudol eu cyhoeddi gan Lywodraeth Cymru yn yr hydref ond, yn y cyfamser, argymhellwn eich bod yn cyfeirio at y safonau cenedlaetholar gyfer systemau draenio cynaliadwy (Yn agor ffenestr newydd) a'r Llawlyfr Systemau Draenio Cynaliadwy, CIRIA 753 (Yn agor ffenestr newydd).

Mae Atodlen 3 DRhLlD 2010 hefyd yn gosod dyletswydd ar awdurdodau lleol fel Corff Cymeradwyo SDCau i gymeradwyo, mabwysiadu a chynnal systemau sy'n cyd-fynd ag adran 17 yr Atodlen. I gael rhagor o wybodaeth am y ddeddfwriaeth, ewch i Atodlen 3 Deddf Llifogydd a Rheoli Dŵr 2010 (Yn agor ffenestr newydd).

Offerynnau Statudol sy'n sail i Atodlen 3 ynghylch cymeradwyo, mabwysiadu, gorfodi, ffïoedd ac apeliadau (Yn agor ffenestr newydd)

Systemau Draenio Cynaliadwy (SuDS): cwestiynau cyffredin (Llywodraeth Cymru) (Yn agor ffenestr newydd)

 

Beth yn union yw CCS?

Mae'r CCS yn swyddogaeth statudol a gynigir gan yr awdurdod lleol i sicrhau fod cynigion draenio ar gyfer pob datblygiad newydd o fwy nac 1 tŷ neu lle bod yr arwynebedd adeiladu yn 100m2 wedi eu dylunio a'u hadeiladu yn unol â'r safonau cenedlaethol ar gyfer draenio cynaliadwy a gyhoeddwyd gan Weinidogion Cymru.

Mae'r Corff Cymeradwyo SuDS:

  • yn gwerthuso ac yn cymeradwyo ceisiadau draenio ar gyfer datblygiadau newydd lle bydd gan waith adeiladu oblygiadau ar ddraenio,
  • yn mabwysiadu a chynnal a chadw systemau draenio dŵr arwyneb cynaliadwy yn unol ag Adran 17 Atodlen 3
  • mae ganddo bwerau arolygu a gorfodi
  • yn defnyddio pwerau disgresiwn i gynnig cyngor nad yw'n statudol cyn i chi gyflwyno cais

 

Beth mae'n ei olygu ar gyfer fy natblygiad?

Os ydych yn ddatblygwr, yn asiant neu'n unigolyn sy'n ceisio caniatâd cynllunio ar gyfer datblygiad, os yw'r datblygiad yn cynnwys mwy nac 1 tŷ neu arwynebedd adeiladu o 100m2 neu ragor mae hefyd rhaid i chi geisio cymeradwyaeth CCS ynghyd â chymeradwyaeth gynllunio. Ni fydd hawl gennych i ddechrau adeiladu nes rhoddir y 2 ganiatâd.

Ni fydd yn ofynnol i safleoedd a datblygiadau presennol sydd wedi sicrhau caniatâd cynllunio neu yr ystyrir eu bod wedi derbyn caniatâd (boed yn ddarostyngedig i amodau fel mater a gadwyd yn ôl) neu y derbyniwyd cais dilys ar ei gyfer ond nad yw wedi ei bennu erbyn 7 Ionawr 2019, wneud cais am gymeradwyaeth CCS.

Serch hynny, bydd yn dal angen cymeradwyaeth CCS os rhoddwyd y caniatâd cynllunio yn ddarostyngedig i amod o ran mater a gadwyd yn ôl ac nad yw'r cais i gymeradwyo'r mater a gadwyd yn ôl wedi ei wneud cyn 7 Ionawr 2020.

Mae yna rai eithriadau:

  1. Mae gwaith adeiladu nad oes angen caniatâd cynllunio wedi ei eithrio o'r gofyniad am gymeradwyaeth CCS, nid yw'r eithriad yn berthnasol lle mae'r gwaith adeiladu ag arwynebedd o 100 m2 neu ragor.
  2. Boed angen caniatâd cynllunio ai peidio, eithriwyd gwaith adeiladu sy'n cynnwys adeiladu un annedd, neu fath arall o adeilad, sydd ag arwynebedd o lai na 100m2, o'r gofyniad i sicrhau cymeradwyaeth.

 

Sut ydw i'n ceisio cymeradwyaeth CCS?

Cyn ymgeisio

Draenio cynaliadwy - ffurflen cyn cyflwyno cais (Word doc) [325KB]

a) Proses cyn ymgeisio CCS nad yw'n gysylltiedig â phroses cyn ymgeisio'r awdurdod cynllunio lleol

Bydd y CCS yn cynnig gwasanaeth cyn ymgeisio am dâl i drafod gofynion draenio eich safle yn fanwl a beth sydd angen ei gyflwyno gyda'ch cais. Bydd y gwasanaeth hwn ar wahân i'r gwasanaeth cyn ymgeisio, felly bydd angen i chi ymgysylltu'n fuan â'r gwasanaethau perthnasol. Bydd hyn yn sicrhau bod y dyluniad SDCau arfaethedig yn addas yn unol â safonau cenedlaethol a chynllun safle digonol. Bydd y gwasanaeth hwn yn werthfawr i ddatblygwyr i helpu cyfyngu oedi a lleihau costau yn y tymor hir.

b) Proses cyn ymgeisio CCS wedi'i chyfuno â phroses cyn ymgeisio'r awdurdod cynllunio lleol

Bydd yr CCS yn cynnig gwasanaeth cyn ymgeisio y codir tâl amdano i drafod gofynion draenio eich safle yn fanwl a beth sydd angen ei gyflwyno gyda'ch cais. Bydd y gwasanaeth hwn yn cael ei gynnig gyda'r cyngor cyn ymgeisio os byddwch yn dymuno ei dderbyn.  Bydd hyn yn sicrhau bod y dyluniad SDCau arfaethedig yn addas yn unol â safonau cenedlaethol a bod cynllun safle digonol. Bydd y gwasanaeth hwn yn werthfawr i ddatblygwyr i helpu cyfyngu oedi a lleihau costau yn y tymor hir.  

Ceisiadau llawn

Draenio cynaliadwy - ffurflen gais lawn (Word doc) [321KB]

Rhaid cyflwyno ceisiadau llawn i'r CCS i'w dilysu a rhaid iddynt gynnwys:

  • cynllun yn manylu ar yr ardal adeiladu a graddau'r system ddraenio, 
  • gwybodaeth o ran y modd y bydd y gwaith adeiladu yn cydymffurfio â Safonau SDCau;
  • gwybodaeth y gofynnwyd amdani yn rhestr gyfeirio'r ffurflen gais
  • y ffi ymgeisio briodol. 

Bydd 7 wythnos gan yr CCS i bennu ceisiadau ac eithrio'r rhai lle mae angen Asesiad o'r Effaith Amgylcheddol, lle bydd ganddo 12 wythnos.

 

Ffïoedd

Ffïoedd cyn cyflwyno cais

Mae cyngor cyn cyflwyno cais ar gael gyda chyfarfod neu heb gyfarfod. Bydd y Corff Cymeradwyo SDCau yn darparu'r gwasanaethau dewisol hyn o fewn 28 niwrnod i gyflwyno'r dogfennau cyntaf a thalu'r ffioedd cysylltiedig.

Sylwer: mae'r gwasanaeth hwn ar wahân i'r gwasanaeth cyngor cyn cyflwyno cais cynllunio.

1. Cyngor cyn cyflwyno cais heb gyfarfod

Bydd yn cynnwys y canlynol:

  • adolygiad o'r wybodaeth a gyflwynwyd
  • creu adroddiad

Ffi fesul maint datblygiad:

  • datblygiad bach (1-9 annedd rhwng 100m² a 999m²) - £300
  • datblygiad mawr (10-24 annedd rhwng 1,000m² a 1,999m²) - £600
  • datblygiad mawr sylweddol (mwy na 24 annedd, dros 1,999m²) - £1,100

2. Cyngor cyn cyflwyno cais gyda chyfarfod

Bydd yn cynnwys y canlynol:

  • adolygiad o'r wybodaeth a gyflwynwyd
  • cyfarfod 1 awr o hyd (codir tâl yn ôl yr awr am oriau ychwanegol)
  • creu adroddiad

Ffi fesul maint datblygiad:

  • datblygiad bach (1-9 annedd rhwng 100m² a 999m²) - £400
  • datblygiad mawr (10-24 annedd rhwng 1,000m² a 1,999m²) - £700
  • datblygiad mawr sylweddol (mwy na 24 annedd, dros 1,999m²) - £1,300

Ffïoedd ymweliad safle / arolygu

£168 fesul ymweliad / arolygiad ar gyfer datblygiadau o bob maint.

Mae'r gost hon ar gyfer ymweliad safle i'w thalu ar ben y pecyn cyn cyflwyno cais. Mae hyn yn cynnwys costau teithio.

Ffïoedd cyngor technegol Cymeradwyo Systemau Draenio Cynaliadwy

£100 yr awr ar gyfer datblygiadau o bob maint.

Byddwch yn cael ymateb technegol i gwestiynau penodol. Codir tâl am leiafswm o 1 awr.

 

Sut ydw i'n cysylltu gyda fy CCS?

Ebost: sab.applications@abertawe.gov.uk

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 01 Tachwedd 2024