Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - Mai

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Arddangosfa newydd yn archwilio treftadaeth Indiaidd ein dinas

Mae arddangosfa newydd bwerus sy'n archwilio'r cysylltiadau hanesyddol a diwylliannol rhwng isgyfandir India a Chymru yn cael sylw blaenllaw yn Oriel Gelf Glynn Vivian dros y misoedd nesaf.

glynn viv india exhibition

Mae Teigrod a Dreigiau, sy'n agor ar 23 Mai, yn cynnwys dros 100 o gelfweithiau trawiadol gan oddeutu 70 o artistiaid o Gymru, Lloegr, India a Phacistan.

Mae'r rhain yn cynnwys paentiadau, ffotograffau, tecstilau, cerfluniau, celf berfformio a gosodweithiau digidol y mae llawer ohonynt ar fenthyg o gasgliadau mawr ar draws y DU.

Mae'r arddangosfa'n olrhain cymhlethdodau cymdeithasol a gwleidyddol y berthynas rhwng India a Chymru, gan dynnu sylw at gysylltiadau ymerodrol drwy ryfel, masnach ac iaith. Mae cwestiwn diddorol wrth wraidd yr arddangosfa: beth mae India a Chymru, dwy genedl wedi'u llunio gan imperialaeth Brydeinig, yn ei rannu wrth iddynt chwilio am hunaniaeth?

Meddai Elliott King, Aelod y Cabinet dros Ddiwylliant a Chydraddoldeb, "Mae'r arddangosfa hon yn rhoi cyfle i breswylwyr Abertawe archwilio'u treftadaeth eu hunain mewn ffyrdd newydd a chyffrous.

"Drwy edrych ar sut mae India a Chymru ill dwy wedi'u llunio gan ymerodraeth, mae Teigrod a Dreigiau yn ein helpu i feddwl am bwy ydym heddiw, ac o ble y down ni. Mae'n arddangosfa ystyrlon i unrhyw un sydd â diddordeb mewn diwylliant, hunaniaeth a chymuned."

Meddai, "Mae gan Abertawe draddodiad balch o groesawu a dathlu amrywiaeth yn ein cymunedau. Rydym yn Ddinas Noddfa a Dinas Hawliau Dynol gyntaf Cymru.

"Rwy'n annog pawb i ymweld â'r arddangosfa ryfeddol hon. Mae'n gyfle gwych i ddysgu am ein hanesion cyffredin a dathlu'r dreftadaeth ddiwylliannol amrywiol sy'n gwneud Abertawe'n lle mor fywiog. Mae'n ymwneud â'r hyn rydym wedi'i etifeddu - a sut rydym yn symud ymlaen gyda'n gilydd."

Meddai Karen Mackinnon, Curadur, Oriel Gelf Glynn Vivian, "Mae'r arddangosfa ryfeddol hon yn dod ag artistiaid o dde Asia a Chymru ynghyd i archwilio croestoriad lle gallwn archwilio ein gorffennol a'n dyfodol .

"Mae Teigrod a Dreigiau yn archwilio sut mae diwylliannau'n gwrthdaro ac yn sgwrsio, a lle mae ideolegau'n cydfodoli, yn uno ac yn gwahanu."

Mae'r arddangosfa hon, sydd wedi'i churadu gan Katy Freer o Oriel Gelf Glynn Vivian a Dr Zehra Jumabhoy o Brifysgol Bryste, yn dod â darnau hanesyddol a chyfoes ynghyd - gan gynnwys gweithiau newydd a gomisiynwyd yn arbennig ar ei chyfer.

Mae artistiaid o Abertawe hefyd wedi ymwneud yn agos â hi. Cydweithiodd y grŵp celfyddydau lleol Threadsâ'r artist rhyngwladol Adeela Suleman o Karachi, Pacistan, i greu darn o decstil newydd sy'n adlewyrchu eu taith greadigol gyffredin.

Mae'r arddangosfa a gefnogir gan Raglen Fenthyca Weston gydag Art Fund a Chyngor Celfyddydau Cymru, yn rhedeg ochr yn ochr â rhaglen llawn sgyrsiau, gweithdai a pherfformiadau - gan gynnwys digwyddiad byw gyda'r artist enwog Nikhil Chopra ddydd Gwener 23 Mai, a gomisiynwyd gan CELF: Oriel Gelf Gyfoes Genedlaethol i Gymru.

Am fanylion llawn, ewch i: www.glynnvivian.co.uk

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 15 Mai 2025