Gwaith yn dechrau i wella systemau draenio ym mharc poblogaidd Singleton
Mae gwaith yn dechrau'r wythnos hon i wella cyflwr y systemau draenio ym mharc poblogaidd Singleton yn Abertawe.
Mae contractwyr yn dod i'r safle i ddechrau gwaith ar y prosiect a fydd yn helpu i wella amodau ar gyfer defnyddwyr y parc a'r rheini sy'n mynd i ddigwyddiadau cerddoriaeth mawr sydd wedi cael eu cynnal yn y parc yn ystod yr haf dros y blynyddoedd diwethaf.
Bydd y gwaith yn cymryd hyd at chwe wythnos a chaiff ei ariannu drwy grant Cronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU. Bydd y gwaith yn cynnwys gosod pibau draenio newydd yn y parc, yn ogystal â gwella sianeli draenio presennol.
Dywedodd Robert Francis-Davies, Aelod y Cabinet dros Fuddsoddi, Adfywio, Digwyddiadau a Thwristiaeth fod y gwelliannau i'r systemau draenio'n dilyn ymgynghoriad â phreswylwyr yn dilyn tymor o ddigwyddiadau yr haf diwethaf.
Meddai, "Rydym eisoes wedi gwneud gwelliannau i systemau draenio yn y Cae Lacrosse ar waelod y parc a bydd y gwaith diweddaraf yn mynd cam ymhellach drwy helpu i fynd i'r afael â phroblemau yn rhannau uchaf a chanol y parc lle cynhelir digwyddiadau.
"Rydym yn gweithio gyda'r contractwyr i leihau aflonyddwch i breswylwyr lleol a defnyddwyr rheolaidd y parc ac rydym yn sicrhau bod gan bobl a grwpiau cymunedol lleol yr wybodaeth ddiweddaraf."