Taflwyr sbwriel yn cael eu beio am lenwi ymylon ffyrdd â sbwriel
Mae'n bosib y bydd gyrwyr sy'n defnyddio nifer o ffyrdd prysur a ffyrdd deuol yn wynebu trefniadau cau ffyrdd yn ystod yr wythnosau nesaf, diolch i'r bobl ddifater hynny sy'n meddwl ei bod yn dderbyniol taflu sbwriel ar ymylon ffyrdd.
![litter dropped](/image/8998/litter-dropped/standard.jpg?m=1660133452820)
Mae'r timau priffyrdd yn cymryd camau i glirio sbwriel y penwythnos hwn ar yr A484 rhwng Garngoch a Chadle, gyda mwy i ddod yn yr wythnosau nesaf.
Meddai Cyril Anderson, Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Cymunedol, "Pe na bai pobl yn taflu sbwriel allan o ffenestri ceir ar ein ffyrdd a'n ffyrdd deuol neu dipio'n anghyfreithlon ar ymylon ffyrdd, ni fyddai angen clirio'r gwastraff.
"Ond mae angen i ni gymryd camau gweithredu gan ei fod yn edrych yn flêr a hefyd oherwydd y peryglon posib i fywyd gwyllt a all fod yn byw ar ymylon y ffyrdd."
Mae gwaith eisoes wedi'i wneud i lanhau sbwriel o'r A484 rhwng Casllwchwr a Garngoch. Dros y ddau benwythnos nesaf bydd y gwastraff sydd ar hyd y rhan sy'n weddill o Garngoch i Gadle a'r A483 o Gadle i Benllergaer hefyd yn cael ei glirio.
Yn dilyn ymlaen o hynny, bydd gwaith yn cael ei wneud ar yr A4067 o Ynysforgan i Gwm Lefel gyda gweithgarwch pellach yn yr wythnosau sy'n dilyn.