Toglo gwelededd dewislen symudol

Disgwylir i Ddyfnant gael dwy ardal gymunedol wedi'u huwchraddio

Bydd gwaith uwchraddio yn dechrau ar ddwy ardal chwarae mewn cymuned yn Abertawe yn yr wythnosau nesaf.

dunvant play area artist impression

Mae Parc Dyfnant yn destun gwaith trawsnewid a fydd yn cynnwys unedau aml-chwarae, siglenni sy'n cydymffurfio â safonau anabledd a rowndabowts, trampolîn ac arwyneb diogelwch rwber newydd ac mae Dôl Dyfnant yn cael dwy set o siglenni dwbl ac arwyneb newydd hefyd.

Cronfa Adfywio Economaidd arloesol Cyngor Abertawe sy'n talu am y prosiectau, sydd eisoes wedi ariannu gwaith uwchraddio ar gyfer bron i 50 o ardaloedd chwarae ar draws y ddinas yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, gyda rhagor i ddod. Mae aelodau wardiau lleol hefyd wedi cefnogi trwy gyfrannu o gyllidebau cymunedol.

Mae'r gwaith uwchraddio yn dilyn cwblhau dwy ardal chwarae yn West Cross a Phontarddulais, ochr yn ochr â chynlluniau i ddechrau gwaith mewn saith safle arall ac mae cynigion ar gyfer 18 yn rhagor ar y gweill.

Dywedodd Robert Francis-Davies, Aelod y Cabinet dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth, y dylai'r gwaith yn Nyfnant ddechrau yn yr wythnosau nesaf ac addawodd y byddai lleoliadau eraill o gwmpas y ddinas y mae angen gwaith uwchraddio arnynt yn cael sylw hefyd.

Meddai, "Abertawe yw'r unig gyngor yng Nghymru sydd wedi addo uwchraddio pob ardal chwarae sy'n eiddo i'r cyngor. Dechreuwyd ar y gwaith ar ddechrau'r pandemig a bellach, tua blwyddyn yn ddiweddarach, mae 45 wedi'u cwblhau gyda rhagor ar y gweill yn y misoedd sydd i ddod."

Mae ardaloedd chwarae newydd neu sydd wedi'u gwella yn cynnwys cyfarpar a ddewiswyd mewn cydweithrediad â chymunedau lleol. Mae'r cyfleusterau'n amrywio o siglenni, llithrennau a rowndabowts traddodiadol i drampolinau, gwifrau gwib a fframiau dringo. Mae cyfarpar hefyd wedi'u cyflwyno ar gyfer plant ag anableddau.

Meddai Andrew Stevens, Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd ac Isadeiledd, "Dangosodd y pandemig pa mor bwysig oedd ardaloedd chwarae awyr agored am ddim i les ein plant a'n pobl ifanc.

"Yn ystod yr argyfwng, daethant yn un o'r ychydig fannau lle gallai plant gadw'n heini'n ddiogel a lle gallai ffrindiau a theuluoedd weld ei gilydd am sgwrs gan gadw pellter cymdeithasol.

"Hyd yn hyn rydym wedi ymrwymo £5 miliwn o bunnoedd i'n cronfa ardaloedd chwarae ac mae cymunedau o Graig-cefn-parc i Gasllwchwr a Melin Mynach wedi gweld y manteision."

Mae'r cymunedau hynny sydd eisoes wedi derbyn ardaloedd chwarae newydd neu well yn cynnwys Mayhill, Uplands, Llansamlet, Gorseinon, Gelli Aur, Heol Frank, Parc Ravenhill, Weig Fawr a Pharc Cwmbwrla.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i: https://www.abertawe.gov.uk/lleoeddchwaraenewydd