Ansawdd dŵr ymdrochi
Mae ein dyfroedd arfordirol yn cael eu gwella'n sylweddol gan gynlluniau trin mawr a drud. Rydym yn monitro ansawdd dŵr i ddiogelu iechyd y cyhoedd, gan ddefnyddio safonau a sefydlwyd mewn Cyfarwyddeb Ewropeaidd.
Mae'r safonau'n diogelu iechyd y cyhoedd ond yn cydnabod bod dŵr môr yn amgylchedd amrywiol naturiol. Bydd tywydd gwael yn arwain at fwy o facteria.
Mae traethau Gŵyr yn bodloni safonau'r UE yn hawdd, ond mae Bae Abertawe ychydig yn gymhlethach. Ni fyddai Bae Abertawe'n gwella llawer mwy trwy beirianneg ddrud. Rydym yn defnyddio safonau'r UE i helpu i ragweld ansawdd y dŵr ym Mae Abertawe a hysbysu'r cyhoedd.
Ansawdd dŵr ymdrochi ym Mae Abertawe
Yr haf hwn, rydym yn dangos gwybodaeth am ansawdd dŵr ar gyfer Bae Abertawe ar arwyddion ger y slipffordd. Mae canlyniadau'n cael eu postio dair gwaith y dydd. Gall yr ansawdd dŵr newid trwy gydol y dydd, gan ddibynnu ar olau'r haul, cyfeiriad gwynt, llif afon a'r llanw.
Rydym hefyd yn cyhoeddi'r canlyniadau hyn ar ein cyfrif Twitter. I gael yr wybodaeth ddiweddaraf, dilynwch ni yn @SwanseaBayWater.
Ansawdd dŵr ymdrochi ar draethau eraill gan gynnwys Gŵyr
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn casglu data gwyddonol manwl ar lendid ein dyfroedd ymdrochi (traethau'n bennaf) bob blwyddyn rhwng mis Mai a mis Medi. Mae adroddiadau manwl ar gael ynghylch data ansawdd dŵr ymdrochi ar wefan Cyfoeth Naturiol Cymru..