Toglo gwelededd dewislen symudol

Arddangosfa Dylan Thomas yn Abertawe yn y ras am wobr genedlaethol

Mae Arddangosfa Dylan Thomas Abertawe yng Nghanolfan Dylan Thomas wedi cyrraedd y rhestr fer yn y categori Amgueddfa Fach Orau yng ngwobrau nodedig 'Kids in Museums' 2024.

Dylan Thomas - Arts Centre of Sanctuary 2025

Mae'r arddangosfa Dwlu ar y Geiriau, a weithredir gan Gyngor Abertawe, a'r rhaglen ymgysylltu sy'n cyd-fynd â hi'n cynnig cyflwyniad cyfareddol i fywyd a gwaith Dylan Thomas, un o ffigurau llenyddol mwyaf eiconig yr 20fed ganrif a  brodor balch o Abertawe.

Mae'r gydnabyddiaeth hon yn dathlu ymroddiad tîm yr arddangosfa i greu profiadau croesawgar, diddorol ac addysgol sy'n apelio at blant a theuluoedd.

Croesawyd yr enwebiad gan y Cynghorydd Elliot King, Aelod y Cabinet dros Ddiwylliant, Hawliau Dynol a Chydraddoldeb Cyngor Abertawe, a dywedodd:

"Mae'r anrhydedd hon yn adlewyrchu ein hymrwymiad i feithrin amgylchedd bywiog, cynhwysol ac ysbrydoledig lle gall pobl ifanc archwilio etifeddiaeth barhaol Dylan Thomas. Mae ei ddefnydd creadigol o iaith yn parhau i swyno ac ysbrydoli, ac rydym yn falch o rannu hynny gyda chenedlaethau newydd."

Mae'r arddangosfa'n cynnwys arddangosfeydd rhyngweithiol, gosodweithiau amlgyfrwng, a llwybr plant a ddyluniwyd yn arbennig. Mae arteffactau dilys a rhaglen amrywiol o ddigwyddiadau'n cynnig archwiliad cynhwysfawr a hygyrch o gyfraniadau llenyddol Thomas, ei gysylltiadau dwfn ag Abertawe, a'i ddylanwad byd-eang.

Canmolodd panel 'Kids in Museums' ymagwedd gynhwysol y ganolfan a'i phartneriaethau cymunedol cryf, yn enwedig wrth gefnogi teuluoedd yn ystod yr argyfwng costau byw. Roedd adborth gan deuluoedd sydd wedi ymweld â'r ganolfan yn tynnu sylw at awyrgylch croesawgar y ganolfan a dyluniad ystyriol ei gweithgareddau.

Mae ymwelwyr ifanc hefyd wedi rhannu eu brwdfrydedd.

'Dyma'r lle gorau erioed!' - Elijah, 6 oed

'Fe wnes i fwynhau'r Gweithdy Gwneud Papur Tawel yn fawr. Fe wnes i 4 dalen gyda barddoniaeth natur a hadau arni. Fe wnaethon ni fwynhau edrych o gwmpas yr arddangosfa hefyd. Roedd y staff yn gyfeillgar iawn ac yn gwneud i mi deimlo'n gyfforddus' Annie, 10 oed

Trefnir Gwobrau 'Kids in Museums' gan yr elusen genedlaethol o'r un enw, sy'n hyrwyddo profiadau sy'n addas i deuluoedd mewn amgueddfeydd ar draws y DU. Cyhoeddir yr enillwyr ym mis Hydref 2025.

I gael rhagor o wybodaeth am Ganolfan Dylan Thomas, y rhaglen ddigwyddiadau a bywyd a gwaith Dylan Thomas, ewch ar-lein i  www.dylanthomas.com

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 25 Mehefin 2025