Canmoliaeth uchel wrth i Ganolfan Dylan Thomas ennill gwobr flaenllaw
Mae Canolfan Dylan Thomas y ddinas wedi cael ei chydnabod am ei gwaith rhagorol wrth gefnogi'r rhai sy'n ffoi rhag rhyfel neu erledigaeth yn eu gwledydd eu hunain.

Mae'r ganolfan wedi ennill statws Canolfan Noddfa'r Celfyddydau gan raglen Dinas Noddfa sy'n cydnabod ac yn dathlu cymunedau a sefydliadau sy'n mynd y tu hwnt i'r galw i groesawu pobl sy'n chwilio am noddfa.
Mae'r ganolfan wedi bod yn cynnal sesiynau creadigol ar gyfer ceiswyr lloches a ffoaduriaid ers dechrau 2000, ac mae'n ymuno â lleoliadau eraill, gan gynnwys Oriel Gelf Glynn Vivian, Gwasanaeth Llyfrgelloedd Abertawe, Amgueddfa Genedlaethol y Glannau a rhai o'n hysgolion sydd hefyd wedi ennill statws noddfa.
Meddai Elliott King, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Gydraddoldeb, Hawliau Dynol a Diwylliant, "Llongyfarchiadau i'r tîm yng Nghanolfan Dylan Thomas am eu cyflawniad.
"Mae Abertawe'n falch o fod yn Ddinas Hawliau Dynol gyntaf Cymru ac mae cymeradwyaeth bersonol y beirniaid o'r hyn y mae'r tîm yn ei wneud gyda chefnogaeth y cyngor yn deyrnged i'w hymrwymiad a'u tosturi.
"Mae Canolfan Dylan Thomas bob amser wedi bod yn ganolbwynt i'r rhai sy'n dwlu ar eiriau awdur enwocaf Cymru, ac erbyn hyn mae hefyd yn cael ei chydnabod fel hafan i'r rhai sy'n ffoi rhag rhyfel neu erledigaeth."
Daeth Abertawe'n ail Ddinas Noddfa swyddogol y DU yn 2010. Dair blynedd yn ôl, cyhoeddwyd Abertawe'n Ddinas Hawliau Dynol gyntaf Cymru.