Toglo gwelededd dewislen symudol

Gadewch i ni gyfri'r diwrnodau tan hwyl y Pasg

Bydd Abertawe'n cyfri'r diwrnodau tan wyliau'r Pasg gan y bydd Castell Ystumllwynarth a llu o atyniadau eraill yn ailagor ar ôl iddynt fod ar gau dros y gaeaf.

Oystermouth Castle Guided Tours

Bydd llawer o bethau ar gael i breswylwyr ac ymwelwyr eu mwynhau'r gwanwyn hwn, gan gynnwys y pedalos ar Lyn Cychod Singleton, golff gwallgof ym Mharc Singleton neu yng Ngerddi Southend a dychweliad Trên Bach Bae Abertawe.

Bydd tirnod enwog Castell Ystumllwynarth yn agor ei gatiau dros y Pasg, ac mae gweithgareddau arbennig wedi'u trefnu gan gynnwys Gwerin y Gŵyr, diwrnod hanes byw canoloesol ynghyd â chrefftau'r Pasg a helfeydd Bwni'r Pasg i blant. Bydd Tîm Chwaraeon ac Iechyd y cyngor yn rhoi cyfle i bobl ddod yn heini'r gwanwyn hwn trwy gynnig rownd newydd o sesiynau wythnosol am ddim, gan gynnwys pilates, cerdded Nordig a T'ai Chi.

Bydd y tîm hefyd yn cyflwyno amserlen sy'n llawn gweithgareddau difyr i blant eu mwynhau dros wyliau'r Pasg. 

Bydd hefyd amrywiaeth o ddigwyddiadau difyr a gemau diwylliannol yng Nghanolfan Dylan Thomas ac Oriel Gelf Glynn Vivian, lle gall ymwelwyr ddarganfod casgliad gwych o gelfweithiau a chrochenwaith. Yn ystod gwyliau'r Pasg, bydd yr oriel yn cynnal ei digwyddiadau Clwb Celf Dydd Sadwrn a'r Clwb Ffilmiau i Deuluoedd poblogaidd.  

Bydd Amgueddfa Abertawe, sef amgueddfa hynaf Cymru, hefyd yn cynnal nifer o ddigwyddiadau ac atyniadau arbennig dros y Pasg.

Meddai Tracey McNulty, Pennaeth Gwasanaethau Diwylliannol Cyngor Abertawe, "Rydym yn dechrau cyfri'r diwrnodau tan y Pasg yn Abertawe, a bydd y cyngor yn cynnig rhaglen llawn hwyl ac adloniant yn yr wythnosau nesaf.

"Mae ailagor Castell Ystumllwynarth dros y Pasg ar ôl iddo fod ar gau dros y gaeaf fel arfer yn nodi dechrau cyfnod y gwyliau ac mae ein staff a'n gwirfoddolwyr wedi bod yn brysur yn paratoi'r atyniad trawiadol hwn i groesawu ymwelwyr unwaith eto.

"Bydd Lido poblogaidd Blackpill hefyd yn ailagor o 30 Ebrill, a gellir dod o hyd i wybodaeth am hyn ac am y pethau eraill sydd i'w gwneud a'u gweld yn Abertawe yn www.joiobaeabertawe.com"

 

 

 

  

 

 

 

 

 

 

 

 

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 31 Mawrth 2022