Ydeg peth gorau i'w gwneud yn ystod y Pasg ym Mae Abertawe
Mae'r gwanwyn wedi cyrraedd, a Bae Abertawe yw'r cyrchfan perffaith ar gyfer antur llawn hwyl i'r teulu dros y Pasg! Dewch i fwynhau'r awyr agored, gweithgareddau ymarferol neu ddiwrnod hamddenol ger y môr.
Felly, ewch ati i drefnu eich llety, pacio eich bagiau, a pheidiwch ag anghofio am ddanteithion y Pasg - dyma'r cyfle i gael gwyliau cofiadwy ym Mae Abertawe.
Ar ben hynny, manteisiwch ar y teithiau am ddim ar fysus ledled Bae Abertawe, y Mwmbwls a Gŵyr drwy gydol gwyliau'r Pasg. Ewch ar y bws i weld ble bydd eich antur yn mynd â chi!
I'ch helpu i gynllunio eich ymweliad, dyma grynodeb o ddeg gweithgaredd sy'n addas i deuluoedd y gallwch eu mwynhau dros y Pasg.
1. Ewch ar antur yn y jyngl
Gall plant chwilfrydig archwilio coedwig law wyrddlas yng nghanol Abertawe! Mae Sŵ Trofannol Plantasia yn llawn planhigion ecsotig, ymlusgiaid difyr (gallwch fwydo'r crocodeilod hyd yn oed!), ieir bach yr haf a hyd yn oed swricatiaid chwareus.
Os hoffech gael cyffro ychwanegol, rhowch gynnig ar Jungle Escape - ystafell ddianc sy'n cynnig profiad ymdrochol lle mae teuluoedd yn cydweithio i ddatrys posau a datgloi cyfrinachau'r jyngl. A fydd eich teulu'n dianc mewn pryd?
2. Mwynhewch ddiwrnod ar y traeth
Mae Bae Caswell a Bae Langland yn cynnig y lleoliad perffaith ar gyfer diwrnod addas i'r teulu ar y traeth - ewch ati i adeiladu cestyll tywod, mwynhau picnic neu ymgolli yn awyr iach y môr. Os ydych yn teimlo'n anturus, ymdrochwch yn y môr neu rhowch gynnig ar wers syrffio.
I'r rhai hynny sy'n awyddus i archwilio ymhellach, gallwch fynd am dro gyda'r teulu ym mae arobryn Rhosili neu ymweld â Bae y Tri Chlogwyn a mwynhau'r golygfeydd arfordirol godidog.
3. Archwiliwch y Mwmbwls
Mae pentref glan môr cyfareddol y Mwmbwls yn berffaith ar gyfer diwrnod o archwilio. Cerddwch ar hyd y promenâd atyniadol, cymerwch gip ar y siopau ffasiynol, yr orielau (mae hyd yn oed un oriel gennym sy'n ymroddedig i lwyau caru yn unig) a siopau syrffio, yna mwynhewch damaid i'w fwyta yn un o'r bwytai a'r caffis niferus.
Camwch yn ôl mewn amser yng Nghastell Ystumllwynarth, lle gall plant ddynwared marchogion neu dywysogesau wrth iddynt grwydro ymysg yr adfeilion hanesyddol.
I gael hwyl a sbri traddodiadol ar lan y môr, ewch i Bier y Mwmbwls i chwarae gemau arcêd, rhoi cynnig ar yr Olwyn Fawr, neu eistedd yn ôl i fwynhau hufen iâ a gwylio'r cychod yn hwylio.
4. Defnyddiwch eich doniau creadigol!
Mae Bae Abertawe'n cynnig llawer o gyfleoedd creadigol difyr i blant yn ystod y Pasg. O weithdai celf wedi'u hysbrydoli gan y traeth i sesiynau crefft ymarferol mewn orielau ac atyniadau lleol, gall pobl ifanc archwilio, creu a rhyddhau eu dychymyg!
5. Teithiwch ar Drên Bach Bae Abertawe
Ewch ar daith ar hyd promenâd atyniadol Bae Abertawe ar Drên Bach y Bae. Mae Trên Bach y Bae yn teithio rhwng Blackpill a'r Mwmbwls, gan gynnig ffordd wych o fwynhau'r golygfeydd arfordirol. Mae'n berffaith ar gyfer y rhai hynny sydd wedi blino ar gerdded!
6. Ewch ar eich beic
Ewch ar eich beic - neu llogwch feic - a mwynhewch daith hamddenol ar hyd promenâd atyniadol Bae Abertawe. Mae'r llwybr beicio 5 milltir hwn yn ddiogel, yn wastad, yn addas i'r teulu ac yn cynnig digon o fannau i gael hufen iâ wrth i chi fynd!
Gallwch gael dihangfa dawel yng Ngerddi Clun. Ychydig oddi ar y glannau, mae'r trysor cudd hwn yn meddu ar wyrddni toreithiog, llwybrau llawn troeon, blodau lliwgar, pont Japaneaidd a thŵr â grisiau troellog!
7. Ewch ar gefn ceffyl
Dewch i fwynhau Bae Abertawe o safbwynt newydd sbon - ar gefn ceffyl! Mae tro hamddenol ar gefn merlyn yn ffordd wych o archwilio'r ardal, gan fynd â chi drwy erwau o goetir a phorfeydd agored a chynnig golygfeydd godidog dros y bae a'r tu hwnt. Mae'r llwybrau ysgafn yn addas i'r teulu, gan gynnig antur ddelfrydol i blant a'r rhai hynny sy'n marchogaeth am y tro cyntaf.
8. Ewch am dro o gwmpas Marina Abertawe
Mwynhewch amgylchedd llonydd, cychod hardd a dyfroedd tawel Marina Abertawe. Crwydrwch ar hyd y glannau neu arhoswch am bryd o fwyd i'r teulu, gyda'r marina yn y cefndir.
Am gymysgedd o hanes a thechnoleg, cofiwch Amgueddfa Genedlaethol y Glannau. Mae ei harddangosion rhyngweithiol a'i harddangosfeydd difyr yn gwneud yr amgueddfa'n lle gwych i ddifyrru'r plant wrth ddysgu am hanes diwydiannol Cymru.
9. Archwiliwch Barc Singleton
Parc Singleton yw'r parc mwyaf ym Mae Abertawe ac mae'n cynnig amrywiaeth o weithgareddau sy'n berffaith ar gyfer diwrnod allan i'r teulu. Gallwch fynd ar daith hamddenol ar bedalo ar y llyn cychod, chwarae golff gwallgof gyda'r plant, neu gerdded yn llonydd drwy'r gerddi botaneg hardd. Paciwch bicnic i fanteisio i'r eithaf ar ddiwrnod yng nghanol byd
10. Mwynhewch weithgareddau dan do
Mae Bae Abertawe'n cynnig amrywiaeth eang o weithgareddau dan do i bob oedran. Ewch i'r LC, sy'n cynnig llithrennau dŵr, pyllau tonnog a nofio dan do. Ar gyfer rhywfaint o antur, gallwch brofi eich sgiliau ar wal ddringo, mynd i'r afael â chwrs rhwystrau chwyddadwy, neu roi cynnig ar daflu bwyell hyd yn oed!
Os ydych yn chwilio am rywbeth mwy hamddenol, ymlaciwch mewn caffi gemau bwrdd lleol