Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Eiddo a thir gwag sydd ar werth neu brydles

Mae'r Gofrestr Tir ac Eiddo Gwag lawn a ffeiliau ar gyfer adrannau unigol (diwydiannol, swyddfeydd, manwerthu a thir) ar gael.

Mae'r dogfennau yn casglu gwybodaeth o amrywiaeth eang o ffynonellau gan gynnwys eiddo sydd ar gael trwy asiantau masnachol lleol ac eiddo Cyngor. Gellir gweld manylion crynodeb yr eiddo, gan gynnwys lleoliad, maint, pris gwerthu/rhentu a ffotograffau, yn ogystal â manylion cyswllt ar gyfer yr asiantaethau eiddo perthnasol. 

Mae'r dogfennau hyn yn cael eu diweddaru bob chwarter.  Credir bod y manylion a gynhwysir yn gywir ar yr adeg y casglwyd yr wybodaeth; fodd bynnag, cynghorir defnyddwyr i gysylltu â'r asiantiaid yn uniongyrchol i wneud ymholiadau pellach am unrhyw eiddo, gan gynnwys argaeledd cyfredol.  Caiff manylion cyswllt ar gyfer pob asiant, gan gynnwys gwe-ddolenni, eu cynnwys yn yr adran 'Asiantiaid Eiddo'.

Mae'r defnydd o ddata'r Arolwg Ordnans yn y dogfennau ar y we-dudalen hon yn destun amodau a thelerau.  © Hawlfraint y Goron [a hawliau cronfa ddata] [2018] Arolwg Ordnans [100023509].

Close Dewis iaith