Toglo gwelededd dewislen symudol

Wyth yn rhagor o ardaloedd chwarae yn cael eu gwella yn y misoedd i ddod

Bydd wyth yn rhagor o gymunedau yn Abertawe yn elwa o welliannau i'w hardaloedd chwarae wrth i'r prosiect trawsnewid gwerth £5m ddatblygu'n gyflym.

Lle chwarae Heol Tir Du.

Cytunwyd ar gynlluniau ar gyfer gwelliannau ym Mhwynt Abertawe, Parc Maesteg Park yn St Thomas a Pharc Ynysnewydd yn Sgeti.

Mae gwaith newydd ddechrau ar welliannau yn Brokesby Road, Bôn-y-maen, ardal chwarae Highmead yn Newton, ardal chwarae Ynystawe yn Nhreforys, Dôl Dyfnant a Pharc Dyfnant.

Ac mae gwelliannau wedi'u cwblhau'n ddiweddar ym Mharc yr Hafod ac ardal chwarae Garnswllt ym Mawr yn ogystal â Denver Road, Fforest-fach, a Heol Tir Du yn Nhreforys.

Cyflwynir detholiad o gyfarpar chwarae hefyd yn Brokesby Road, Highmead, Ynystawe a Dyfnant a fydd yn cynnwys rowndabowts addas i'r anabl, arwynebau newydd, siglenni, llithrennau a thrampolinau.

Disgwylir i Barc Maesteg gael rhagor o siglenni, ffrâm ddringo SpaceNet a rowndabowt fel rhan o'r gwaith uwchraddio ger yr hanner piben sglefrfyrddio a bydd  cyfleusterau newydd yn Ynysnewydd yn cynnwys weiren wib, estyll cydbwyso a ffrâm sgrafangu. Bydd rowndabowt ac uned ddringo'n cael eu hychwanegu at yr atyniadau presennol ym Mhwynt Abertawe.

Dywedodd Robert Francis-Davies, Aelod y Cabinet dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth, fod y rownd ddiweddaraf o welliannau cynlluniedig yn dilyn y gwaith a wnaed i drawsnewid 50 o ardaloedd chwarae eraill ar draws y ddinas dros y flwyddyn neu ddwy ddiwethaf, ac mae rhagor yn yr arfaeth.

Dywedodd fod yr adborth am y fenter wedi bod yn gadarnhaol iawn.

Ychwanegodd, "Mae cwblhau'r rhaglen i wella pob ardal chwarae sy'n eiddo i'r cyngor yn un o ymrwymiadau polisi'r cyngor. Rwy'n falch iawn bod cymaint o gynnydd yn cael ei wneud mor gyflym."

Mae'r ardaloedd chwarae newydd neu well sydd wedi bod yn ymddangos ar draws Abertawe yn cynnwys cyfarpar a ddewiswyd mewn cydweithrediad â chymunedau lleol. Mae'r cyfleusterau'n amrywio o siglenni, llithrennau a rowndabowts traddodiadol i drampolinau, gwifrau gwib a fframiau dringo.

Meddai Andrew Stevens, Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd ac Isadeiledd, "Dangosodd y pandemig pa mor bwysig oedd ardaloedd chwarae awyr agored am ddim i les ein plant a'n pobl ifanc. Mae cymunedau o Graig-cefn-parc i Gasllwchwr a West Cross wedi elwa ohonynt."

Mae'r safleoedd hynny sydd eisoes wedi derbyn ardaloedd chwarae newydd neu well yn cynnwys Mayhill, Uplands, Llansamlet, Gorseinon, Gelli Aur, Heol Frank, Parc Ravenhill, Weig Fawr a Pharc Cwmbwrla.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i: https://www.abertawe.gov.uk/lleoeddchwaraenewydd