Toglo gwelededd dewislen symudol

Cymunedau sy'n adfer o'r pandemig yn derbyn arian ychwanegol

Mae cynllun arloesol sy'n helpu busnesau a chymunedau yn Abertawe adfer o'r pandemig yn derbyn £25m o gyllid i ddarparu rhagor o gefnogaeth hanfodol yn y flwyddyn i ddod.

Arena from above

Mae Cronfa Adferiad Economaidd (CAE) Cyngor Abertawe wedi bod yn targedu cyllid sydd wedi sicrhau bod cymunedau'n elwa o deithio ar fysus am ddim, prisiau prydau ysgol sydd wedi'u rhewi a gwelliannau i ddwsinau o ardaloedd chwarae yn y flwyddyn ddiwethaf.

Mae clybiau chwaraeon sy'n dod allan o'r pandemig wedi elwa o ddileu ffïoedd am logi meysydd chwarae ac mae busnesau twristiaeth ac eraill wedi elwa o grantiau adfer a chymorth ar gyfer mentrau sy'n cynnwys creu mannau awyr agored ar gyfer bwytai, caffis a bariau.

Yn awr, mae'r Cabinet wedi cymeradwyo buddsoddi miliynau o bunnoedd yn rhagor a fydd yn golygu bod cyfanswm o bron £45m wedi'i wario ar y CAE erbyn diwedd 2023.

Cyngor Abertawe yw'r unig awdurdod lleol yng Nghymru sydd wedi sefydlu cronfa o'r math hwn yn sgil y pandemig i ddarparu cymorth mawr ei angen lle bo'i angen.

Bydd yn golygu y bydd nifer o fentrau sy'n bodoli yn parhau, a threfnir y bydd £5m yn rhagor ar gael ar gyfer cynlluniau gwella ffyrdd a £3.3m ar gyfer grantiau gwella busnes a hybu llu o brosiectau cymunedol bach, gan gynnwys gwariant ychwanegol ar doiledau cyhoeddus a chlirio sbwriel.

Dywedodd Rob Stewart, Arweinydd y Cyngor, fod y CAE wedi gwneud  gwahaniaeth gwirioneddol i deuluoedd, busnesau a chymunedau sy'n ei chael hi'n anodd wrth iddynt ddod allan o'r pandemig. Dywedodd fod rhoi hwb i'r gronfa ar gyfer y flwyddyn i ddod yn darparu rhagor o gefnogaeth wrth i gymunedau wynebu heriau'r argyfwng costau byw.

Meddai, "Mae'r CAE wedi paratoi'r ffordd ar gyfer syniadau newydd ac wedi rhoi cymorth ariannol lle bo'i angen fwyaf. Rydym hefyd yn sicrhau bod y gronfa'n unol â'n blaenoriaethau corfforaethol ac ymrwymiadau polisi, gan gynnwys gwelliannau ffyrdd, mynd i'r afael â sbwriel ac ail-lasu ardaloedd cymunedol.

"Heb y CAE ni fyddai ein cymunedau wedi cael y cyfle i deithio ar fysus am ddim yn ystod gwyliau'r ysgol ac ni fyddai clybiau chwaraeon wedi cael y cyfle i ail-ddechrau eto ar ôl y pandemig, heb dalu ffïoedd am logi meysydd.

"Mae busnesau lletygarwch yn ceisio ymateb yn flaengar i'r pandemig trwy greu ardaloedd gweini yn yr awyr agored a gwnaethom eu cefnogi gyda grantiau o'r CAE, ac roedd busnesau eraill wedi cael cymorth gan grantiau eraill hefyd.

"Diolch i'r CAE, cafodd prisiau cinio ysgol yr holl blant a oedd wedi dychwelyd i'r ysgol ar ôl y cyfyngiadau symud eu rhewi. Roeddem hefyd wedi sylweddoli bod parciau ac ardaloedd chwarae awyr agored wedi dod yn ganolbwynt cymunedol yn ystod y pandemig a dyna pam rydym wedi ymrwymo i wella pob ardal chwarae sy'n eiddo i'r cyngor yn y ddinas."

"Mae'r CAE wedi gwneud gwahaniaeth enfawr i fywydau pobl. Dyna pam y mae'n gwneud synnwyr i barhau â hi am flwyddyn arall."

Mae'r CAE wedi cymeradwyo buddsoddiad i roi cymorth i gaffi cymunedol a chyfleusterau ffitrwydd awyr agored ym Mharc Ravenill, pontŵn newydd ar gyfer Knab Rock a thîm chwynnu mannau cyhoeddus.

Meddai'r Cyng. Stewart, "Mae'r cyngor wedi gwneud cyfres o ymrwymiadau polisi i ddarparu cefnogaeth yn y misoedd i ddod i'n cymunedau a fydd yn gwneud gwahaniaeth go iawn i fywydau pobl.

"Bydd parhau â'r CAE, gan bron dyblu'i chyllid i gyfanswm o oddeutu £45m a thargedu'r adnoddau hyn lle mae eu hangen fwyaf yn helpu i gyflawni'n hymrwymiad." 

Close Dewis iaith