Toglo gwelededd dewislen symudol

Cymunedau, busnesau a theuluoedd i elwa o gronfa adfer o'r pandemig

Bydd cynllun arloesol sy'n helpu busnesau a chymunedau yn Abertawe adfer o'r pandemig yn derbyn £24m o gyllid i ddarparu rhagor o gefnogaeth hanfodol yn y flwyddyn i ddod.

View of Swansea

Mae Cronfa Adferiad Economaidd (CAE) Cyngor Abertawe wedi bod yn targedu cyllid sydd wedi sicrhau bod cymunedau'n elwa o deithio ar fysus am ddim, prisiau prydau ysgol sydd wedi'u rhewi a gwelliannau i ddwsinau o ardaloedd chwarae.

Mae clybiau chwaraeon sy'n dod allan o'r pandemig wedi elwa o ddileu ffïoedd am logi meysydd chwarae ac mae busnesau twristiaeth ac eraill wedi elwa o grantiau adfer a chymorth ar gyfer mentrau sy'n cynnwys creu mannau awyr agored ar gyfer bwytai, caffis a bariau.

Yn awr, gofynnir i'r Cabinet gymeradwyo buddsoddi miliynau o bunnoedd yn rhagor a fydd yn golygu bod cyfanswm o bron £45m wedi'i wario ar y CAE erbyn diwedd 2023.

Os caiff ei gymeradwyo, bydd yn golygu y bydd nifer o fentrau sy'n bodoli yn parhau, a threfnir y bydd £5m yn rhagor ar gael ar gyfer cynlluniau gwella ffyrdd a £3.3m ar gyfer grantiau gwella busnes a hybu llu o brosiectau cymunedol bach, gan gynnwys gwariant ychwanegol ar doiledau cyhoeddus a chlirio sbwriel.

Dywedodd Rob Stewart, Arweinydd y Cyngor, fod y CAE wedi gwneud  gwahaniaeth gwirioneddol i deuluoedd, busnesau a chymunedau sy'n ei chael hi'n anodd wrth iddynt ddod allan o'r pandemig. A dywedodd fod rhoi hwb i'r gronfa ar gyfer y flwyddyn i ddod yn darparu rhagor o gefnogaeth wrth i gymunedau wynebu heriau'r argyfwng costau byw.

Ymysg awgrymiadau ariannu'r CAE sy'n ceisio cymeradwyaeth y Cabinet mae arian ychwanegol ar gyfer gwelliannau ffyrdd, clirio sbwriel, cyflwyno rhagor o finiau sbwriel ac ail-lasu ardaloedd cymunedol.

Meddai'r Cyng. Stewart, "Mae'r cyngor wedi gwneud cyfres o ymrwymiadau polisi i ddarparu cefnogaeth yn y misoedd i ddod i'n cymunedau a fydd yn gwneud gwahaniaeth go iawn i fywydau pobl.

"Bydd parhau â'r CAE, gan bron dyblu'i chyllid i gyfanswm o oddeutu £45m a thargedu'r adnoddau hyn lle mae eu hangen fwyaf yn helpu i gyflawni'n hymrwymiad."

 

Close Dewis iaith