Toglo gwelededd dewislen symudol

Cyfanswm milltiredd mannau gwefru cerbydau trydan yn ddigon i deithio i'r lleuad... a thu hwnt!

Mae mannau gwefru cerbydau trydan sy'n eiddo i'r cyngor wedi helpu modurwyr i gwblhau gwerth mwy na 280,000 o deithiau sero net ers i'r rhai cyntaf gael eu gosod yn 2020.

EV charger

 

Mae ceir sy'n cael eu gwefru drwy'r rhwydwaith cynyddol o wefrwyr mewn 25 o feysydd parcio o amgylch y ddinas wedi cwblhau pellter sydd ymhellach na thaith i'r lleuad, gan arbed bron i 74,000kg o CO2 wrth ddefnyddio ynni adnewyddadwy 100%. 

Diolch i rownd newydd o waith i osod 48 o fannau gwefru mewn 13 maes parcio sy'n eiddo i'r cyngor, mae modurwyr bellach yn cael y cyfle i wefru'u ceir tra eu bod nhw yn y siopau neu ar daith i'r traeth.

Mae'r mannau gwefru diweddaraf yn golygu bod 80 o fannau gwefru cerbydau trydan yn 25 o feysydd parcio'r cyngor o gwmpas Abertawe a weithredir ar ran yr awdurdod gan Clenergy EV, gan gynnwys deg ym maes parcio newydd De Bae Copr o dan Arena Abertawe.

Dywedodd Andrea Lewis, Dirprwy Arweinydd ac Aelod y Cabinet dros Drawsnewid Gwasanaethau, fod y mannau gwefru yn hwb go iawn i berchnogion ceir trydan a'r nod yw annog rhagor o bobl i ystyried newid o gerbydau petrol neu ddiesel yn y dyfodol.

Yn ogystal â hyn mae'r cyngor hefyd yn datblygu ei gerbydlu ei hun o gerbydau gwyrdd, gyda'r cerbydlu mwyaf o unrhyw sefydliad sector cyhoeddus yng Nghymru ar hyn o bryd, gan gynnwys 72 o gerbydau wedi'u pweru gan fatri ac wyth cerbyd hybrid ynghyd â 50 arall i'w dosbarthu yn gynnar eleni.

Telir am y mannau gwefru cerbydau trydan drwy Gronfa Trawsnewid Cerbydau Allyriadau Isel Iawn Llywodraeth Cymru.

Mae pob un o'r mannau gwefru yn 'fannau gwefru cyflym', sy'n gallu darparu 7-22kWh i gerbydau perchnogion tra eu bod allan ac maent i gyd yn cael eu pweru gan drydan o ffynonellau adnewyddadwy 100%. 

 

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 11 Ebrill 2023