Toglo gwelededd dewislen symudol

Bydd plant o hyd yn oed mwy o gymunedau ledled Abertawe'n gallu manteisio ar siglenni a rowndabowts dros y misoedd nesaf.

Mae Cyngor Abertawe wedi datgelu cynlluniau manwl ar gyfer hyd yn oed mwy o welliannau i ardaloedd chwarae mewn cymunedau ar draws y ddinas fel rhan o'i gronfa ardaloedd chwarae gwerth £5m.

melin mynach

Disgwylir i waith ddechrau dros yr wythnosau nesaf ym mlaendraeth Llwchwr, Melin Mynach, Penlle'r-gaer a Chraig-cefn-parc, yn ogystal â mannau eraill yn Llangyfelach, Coed Bach a Phennard.

Mae'r prosiectau'n ychwanegol at y rheini a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf ar gyfer cyrchfannau awyr agored poblogaidd yn Blackpill a Bae Bracelet. Disgwylir i gyfarpar newydd gael ei osod yn y mannau hyn yn barod ar gyfer gwyliau ysgol prysur y Pasg ym mis Ebrill.

Meddai Robert Francis-Davies, Aelod y Cabinet dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth, "Yn ystod y pandemig roedd ardaloedd chwarae awyr agored mewn parciau lleol yn lle llawn mwynhad i blant a'u rhieni yn ystod amserau anodd iawn.

"Roedd Cyngor Abertawe yno iddyn nhw yn ystod y cyfnod hwnnw ac rydym yn benderfynol o'u cefnogi nhw wrth i ni ddod allan o'r pandemig."

Bydd y genhedlaeth newydd o ardaloedd chwarae sy'n ymddangos ar draws Abertawe yn cynnwys cyfarpar a ddewiswyd mewn cydweithrediad â chymunedau lleol, a fydd yn amrywio o siglenni, sleidiau a rowndabowts traddodiadol i drampolinau, gwifrau sip a fframiau dringo.

Meddai'r Cyng. Francis-Davies, "Bydd yr ardal chwarae a'r cyfarpar newydd rydym yn ei osod yn hwb ardderchog i blant a fydd yn edrych ymlaen at ddiwrnod mas am ddim gwych. Rydym eisoes wedi cwblhau rhagor mewn lleoedd fel Gorseinon a Thre-gŵyr.

"A bydd rhagor i ddod eleni wrth i'r cynllun gael ei ehangu i gynnwys lleoliadau ychwanegol o gwmpas y ddinas gan gynnwys Mayhill, Uplands, Bôn-y-maen a Llansamlet."

Meddai Andrew Stevens, Aelod y Cabinet dros Wella Busnes a Pherfformiad, "Arhosodd ein parciau ar agor trwy gydol y pandemig ac roedd yn amlwg pa mor boblogaidd a phwysig yr oedd ardaloedd chwarae wrth alluogi plant i adael y tŷ a mynd allan i fwynhau ymarfer corff ac awyr iach yn ddiogel.

"Fe'n hysbrydolwyd gan hynny i ddefnyddio Cronfa Adferiad Economaidd £20m ddynodedig y cyngor i helpu i greu'r ardaloedd chwarae ochr yn ochr â grantiau Llywodraeth Cymru a chymorth gwych gan aelodau wardiau wrth iddynt ddefnyddio cyfran o'u cyllidebau."

I gael gwybod rhagor am y genhedlaeth newydd o ardaloedd chwarae sy'n cael eu creu yn Abertawe, ewch i https://www.abertawe.gov.uk/lleoeddchwaraenewydd

 

 

Close Dewis iaith