Cyfle i ddweud eich dweud ar eithriadau posib i gyfyngiad cyflymder 20mya Llywodraeth Cymru
Mae'r adeg pan gyflwynir terfyn 20mya Llywodraeth Cymru ar draws y wlad yn nesáu.

Disgwylir i ddeddf Llywodraeth Cymru ddod i rym ar 17 Medi a bydd yn golygu y bydd terfynau cyflymder presennol o 30mya yn cael eu lleihau ar strydoedd a ffyrdd ar draws y wlad i 20mya yn y rhan fwyaf o achosion.
Yn dilyn astudiaethau peilot cyn i'r ddeddf gael ei chyflwyno'r llynedd, roedd Llywodraeth Cymru wedi rhoi cwmpas cyfyngedig iawn i gynghorau eithrio nifer bach o ffyrdd 30mya presennol rhag y newidiadau.
A nawr mae Gorchmynion Rheoleiddio Traffig drafft sy'n enwi ffyrdd yn Abertawe a allai o bosib gael eu heithrio rhag y rheoliadau 20mya wedi'u cyhoeddi ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus Gall preswylwyr, busnesau a sefydliadau eraill weld yr wybodaeth drwy ddilyn y ddolen hon: https://www.abertawe.gov.uk/20mphproposedTRO
Dylid anfon sylwadau ar y cynigion at y Prif Swyddog Cyfreithiol, Canolfan Ddinesig, Oystermouth Road, Abertawe SA1 3SN neu drwy e-bost yn Legal.TrafficNotices@abertawe.gov.uk cyn y dyddiad cau ar 26 Gorffennaf 2023.