Toglo gwelededd dewislen symudol

Clybiau pêl-droed cymunedol yn cyrraedd nod newydd

Bydd tri chlwb pêl-droed cymunedol sydd wedi hen sefydlu yn cymryd rheolaeth o gyfleusterau lleol dan gynlluniau y cytunwyd arnynt gan y Cabinet.

Artificial sport pitch - generic (Canva)

Mae'r rheini sy'n frwd dros chwaraeon ym Mhen-lan, Clydach a'r Cocyd bellach yn cael cynnig y cyfle i redeg lleiniau ac ystafelloedd newid eu hunain a helpu i roi hwb i bêl-droed yn eu hardaloedd.

Mae'r clybiau sydd wedi hen sefydlu yn croesawu cannoedd o chwaraewyr ar draws timau iau a hŷn i sesiynau hyfforddiant a gemau bob wythnos, ac mae'r tri yn awyddus i ddatblygu cyfleoedd hanfodol i chwarae pêl-droed a gwella iechyd a lles yn eu cymunedau.

Mae'r cynnig yn dilyn hanes hir Cyngor Abertawe o weithio gyda chlybiau a sefydliadau gwirfoddol i reoli cyfleusterau lleol ar gyfer pobl leol, fel y gall cymunedau benderfynu drostynt eu hunain beth ddylai ddigwydd yno.

O dan gynigion i'w cytuno arnynt gan y Cabinet ar 19 Hydref, byddai cyfleusterau yn eu hardaloedd priodol yn cael eu trosglwyddo drwy brydles gan y cyngor i Glwb Pêl-droed Penlan, Cyfeillion Parc Coed Gwilym a Chlwb Pêl-droed Cymunedol Rosehill, drwy drosglwyddo asedau cymunedol, am rent isel iawn.

Fel rhydd-ddeiliaid, byddai'r cyngor yn cadw perchnogaeth o'r cyfleusterau, ond y clybiau fyddai'n gyfrifol am reoli'r clybiau o ddydd i ddydd, a fyddai'n chwilio am gyfleoedd i fuddsoddi yn y cyfleusterau a'u gwella ar gyfer y gymuned ehangach. 

 

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 19 Hydref 2023