Ffilmio yn Abertawe
Gyda dinas fywiog, arfordir trawiadol a chefn gwlad toreithiog, mae gan Abertawe amrywiaeth o leoliadau ar gyfer ffilmiau, rhaglenni teledu, hysbysebion a chyfryngau eraill.
Cyngor Abertawe'n ceisio gwneud eich profiad o ffilmio yn y ddinas yn un hawdd. Gallwn roi awgrymiadau ar gyfer lleoliadau, trosglwyddo cysylltiadau ar gyfer ffilmio ar dir preifat a chystylltu ag adrannau eraill y cyngor i drefnu'ch sesiwn ffilmio.
Ffurflen ymholiadau ffilmio
Fel cam cychwynnol, llenwch ein ffurflen ymholiadau fer ac anfonwch gopi o'ch yswiriant atebolrwydd cyhoeddus am £5 miliwn. Mae hyn yn caniatáu i ni ddeall natur y ffilmio a dechrau'r broses o drefnu caniatâd ar gyfer y lleoliad.
Cais i ffilmio yn Abertawe Cais i ffilmio yn Abertawe
Fel arall ffoniwch ni ar: 01792 635435.
Ar ôl cael y ffurflen, byddwn fel arfer yn ymateb o fewn dau ddiwrnod gwaith i gadarnhau a roddwyd caniatâd ffilmio ai peidio. Byddwn wedyn yn gallu cysylltu â chi a rhoi unrhyw gyngor neu gefnogaeth angenrheidiol berthnasol, e.e. parcio, cau ffyrdd, cysylltu â phartneriaid etc.
Lleoliadau preifat
Mae rhywfaint o dir Dinas a Sir Abertawe mewn perchnogaeth breifat, sy'n golygu y bydd angen ceisio caniatâd gan berchennog y tir perthnasol.
Mae angen caniatâd ar wahân ar yr ardaloedd canlynol:
Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol (Yn agor ffenestr newydd) sy'n berchen ar rannau mawr o arfordir Gŵyr (yn enwedig De Gŵyr) gan gynnwys Bae'r Tri Chlogwyn (i'r dde o'r nant wrth edrych dros y môr) a thraeth Rhosili (yr hanner isaf, ger Pen Pyrod).
Fferm Broughton sy'n rheoli hanner uchaf Rhosili (ger Llangynydd).
Ymddiriedolaeth Gwlad yr Haf sy'n rheoli'r tir o gwmpas Cefn Bryn, Gŵyr a Mynydd y Gwair a Mawr.
Ystâd Penrhys sy'n rheoli Bae Oxwich a rhannau eraill o Benrhyn Gŵyr ac yn berchen arnynt.
Y Comisiwn Coedwigaeth (Yn agor ffenestr newydd) sy'n berchen ar Goed y Parc, Parkmill, Coed y Felin, Oxwich, Coed Cilfái a Choed Penllergaer.
E-bostiwch lleoliadauffilmio@abertawe.gov.uk neu 01792 635435 am ragor o wybodaeth.
Trwyddedau perfformio i blant
Os yw plentyn yn cymryd rhan mewn darllediad byw neu berfformiad wedi'i recordio (e.e. rhaglen deledu/radio neu ffilm) efallai bydd angen trwydded berfformio i blant.
Dylai'r person sy'n gyfrifol am y cynhyrchiad gyflwyno cais i gyngor lleol y plentyn. Ar gyfer plant sy'n byw yn Abertawe ewch i: Trwyddedu perfformio plant.
Cysylltiadau defnyddiol
Mae Sgrîn Cymru'n (Yn agor ffenestr newydd) annog cynhyrchwyr ffilmiau, rhaglenni teledu a hysbysebion i ddefnyddio lleoliadau, criwiau a chyfleusterau Cymru. Mae'r comisiwn yn gweithio gyda phrosiectau rhyngwladol, domestig a brodorol o bob lliw a llun, o ffilmiau byr a sesiynau tynnu lluniau i hysbysebion, rhaglenni dogfen a dramâu; ac yn rhoi cymorth amhrisiadwy i gynyrchiadau sy'n ffilmio yng Nghymru.
Cysylltwch â: Penny Skuse, Sgrîn Cymru, 0300 025 5659 neu e-bost penny.skuse@gov.wales.
Visit Swansea Bay (Yn agor ffenestr newydd) I wybod mwy am lety, mapiau lleoliad, traethau a digwyddiadau, ewch i wefan dwristiaeth swyddogol Abertawe.