Ffïoedd Awdurdod Iechyd Porthladd Bae Abertawe
Manylion ein gwasanaethau a'r ffïoedd amdanynt.
Ffïoedd glanweithdra llongau
Gosodir ffïoedd gan y Gymdeithas Awdurdodau Iechyd Porthladdoedd ac maent yn seiliedig ar dunelledd gros llongau. Y ffïoedd cyfredol o 1 Ebrill 2024 yw:
| Tunelledd gros y llong | Cyfradd |
|---|---|
| hyd at 1000 | £140 |
| 1001 - 3000 | £190 |
| 3001 - 10,000 | £280 |
| 10,001 - 20,000 | £365 |
| 20,001 - 30,000 | £465 |
| dros 30,000 | £535 |
| Llongau â lle i 50 - 1,000 o bobl | £535 |
| Llongau â lle i dros 1,000 o bobl | £915 |
| Estyniadau | £110 |
Gellir ychwanegu ffïoedd ychwanegol, yn seiliedig ar gostau gwirioneddol, ar gyfer y costau yr eir iddynt. Mae'r rhain yn cynnwys llogi cwch modur; dyletswydd y tu allan i oriau; teithio ac archwiliadau estynedig neu ailarchwilio llongau oherwydd 'Mesurau Rheoli' etc.
Ffïoedd samplau dŵr 2024 - 2025
Ar hyn o bryd nid ydym yn gosod unrhyw ffïoedd am samplau bacteriolegol o ddŵr yfed a gymerir o longau neu osodiadau ymyl y cei at ddibenion iechyd cyhoeddus. Mae ffïoedd ar gyfer unrhyw geisiadau am samplu cemegol gan feistri yn cynnwys teithio a ffïoedd ar gyfer dadansoddi, ac ar hyn o bryd maent yn £140.00 y sampl. Codir ffïoedd am samplu dŵr o linellau dosbarthu, hydrantau etc yn unol â'r rheoliadau Dŵr Preifat ar sail adfer costau.
Mae samplu legionella ar gael drwy gais. Y gost ar hyn o bryd yw £100.00 ar gyfer y sampl gyntaf a £40.00 ar gyfer unrhyw samplau dilynol, sy'n cynnwys costau teithio a ffïoedd dadansoddwr.
Caniatáu prosesau penodedig
Ar hyn o bryd, mae 5 proses trin glo, 3 proses trin sment ac 1 peiriant symudol yn gweithredu yn awdurdodaeth yr awdurdod. Mae graddfa'r taliadau sy'n berthnasol i'r prosesau yn ein hawdurdodaeth yn cael ei phennu drwy statud - Cynllun trwyddedau awdurdodau lleol ar gyfer gweithfeydd ac offer symudol a gweithgareddau allyrru todyddion rhan B (ffioedd a thaliadau) (Cymru) 2016.
| Ffi | Ffi |
|---|---|
| Ffi Ymgeisio | £1629 |
| Ffïoedd Cynhaliaeth Blynyddol | |
| Risg uchel | £1723 |
| Risg ganolig | £1145 |
| Risg isel | £762 |
| Offer symudol | £637 |
Ers 2015 mae'r rhan fwyaf o brosesau bellach yn cael eu hystyried fel gweithgareddau ffïoedd gostyngol
| Gweithgareddau Ffïoedd Gostyngol | Ffi |
|---|---|
| Risg uchel | £542 |
| Risg ganolig | £359 |
| Risg isel | £223 |
Sgoriau hylendid bwyd
Yn unol ag awdurdodau lleol eraill Cymru, y ffi ar gyfer ailymweld ac ailsgorio busnes bwyd yw £180. Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth ar ein tudalen Gwneud cais i ailarchwilo'ch busnes bwyd.
Gofyniad ardoll
Mae'r Bwrdd yn gosod gofyniad ardoll ar ei awdurdodau 'glannau' cyfansoddol ym mis Ionawr bob blwyddyn, gan adlewyrchu'r gofynion gwariant a'r incwm amcangyfrifedig. Dangosir yr ardollau a bennir ar gyfer y flwyddyn ariannol 2024/2025 yn y tabl isod.
| Awdurdod Lleol | Ffi |
|---|---|
| Cyngor Abertawe | £88,281 |
| Cyngor Castell-nedd Port Talbot | £45,767 |
| Cyngor Pen-y-bont ar Ogwr | £17,795 |
| Cyngor Bro Morgannwg | £2,896 |
| Cyfanswm praesept | £154,739 |
