Toglo gwelededd dewislen symudol

Ffordd y Brenin

Rydym wedi trawsnewid Ffordd y Brenin yng nghanol y ddinas gydag ardaloedd cyhoeddus newydd, parcdir wedi'i dirlunio, llwybrau beicio a llwybr dwyffordd un lôn i gerbydau gerllaw llwybrau cerddwyr llydan.

Kingsway (looking east).

Kingsway (looking east).

Fel rhan o'r prosiect gwerth £12m, mae gan Ffordd y Brenin ac Orchard Street ffordd ddwy lôn newydd, gydag un lôn yn rhedeg i bob cyfeiriad.

Mae'r lle ychwanegol a gafwyd yn sgîl lleihau lled y ffordd flaenorol yn golygu mwy o le cyhoeddus.

Mae hyn wedi arwain at well llwybrau cerdded a beicio, rhagor o fannau gwyrdd a 'pharc poced' newydd ar Gylch Ffordd y Brenin.  Dychwelodd traffig dwyffordd hefyd i Mansel Street, De La Beche Street, Grove Place, Alexandra Road a Belle Vue Way.

Ariannwyd y cynllun yn rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop, drwy Lywodraeth Cymru.

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 22 Gorffenaf 2025