Toglo gwelededd dewislen symudol

Cais gan wrthrych y data

O dan hawliau gwrthrych y data a roddir gan y GDPR, mae hawl gennych i ganfod pa wybodaeth sydd gan y cyngor amdanoch.

Eich hawl i gael mynediad

Gan ddefnyddio'r ffurflen gais isod, mae gennych hawl o dan ddeddfwriaeth diogelu data i ofyn unrhyw un o'r cwestiynau canlynol i'r cyngor:

  • P'un a ydym yn prosesu unrhyw ddata personol amdanoch chi;
  • Os ydym, ceir disgrifiad o'r math o ddata personol sydd gennym amdanoch a'n rhesymau dros ei brosesu;
  • P'un a yw eich data personol yn cael ei rannu'n rheolaidd gydag unrhyw drydydd parti;
  • Y cyfnod o amser y bydd eich data personol yn cael ei storio

Mae gennych hawl hefyd i ofyn am gopi o'r wybodaeth bersonol sydd gennym amdanoch, yn amodol ar y cyfyngiadau a restrir yn yr adran nesaf. Cyfeirir at yr hawl i fynediad fel cais am ddata gan y gwrthrych.

Nid yw'n ofynnol i chi ddefnyddio'r ffurflen ar-lein hon i arfer eich hawl i gael mynediad. Fodd bynnag, os ydych chi'n penderfynu cyflwyno'ch cais ar lafar neu drwy e-bost (caismynediapwnc@abertawe.gov.uk) neu lythyr safonol (Cwynion Corfforaethol, Cyngor Abertawe, Canolfan Ddinesig, Abertawe SA1 3SN), bydd aelod o staff y cyngor yn trafod y cwestiynau ar y ffurflen ar-lein gyda chi i sicrhau eich bod wedi cynnwys yr holl wybodaeth angenrheidiol yn eich cais. Byddant hefyd yn gwneud trefniadau i chi ddilysu'ch hunaniaeth.

Ar ôl i ni gadarnhau'ch hunaniaeth, mae'n ofynnol i'r cyngor ymateb i'ch cais o fewn un mis calendr oni bai fod angen i ni ofyn am fis neu ddau o amser ychwanegol. Byddai hyn oherwydd eich bod wedi cyflwyno cais cymhleth y mae angen i ni ymchwilio i'n cofnodion ymhellach.Os oes angen rhagor o amser arnom, neu os na allwn ateb eich cwestiwn o fewn amser rhesymol, byddwn yn cysylltu â chi cyn i'r dyddiad cau ddod i ben. Bydd hyn yn seiliedig ar asesiad o swm yr wybodaeth rydych yn gofyn amdani.

Cyfrifir y dyddiad cau ar gyfer ymateb i'ch cais fel un mis o'r diwrnod ar ôl i chi gyflwyno'ch cais.Rhaid i ddyddiad yr ymateb fod yn ystod yr wythnos (e.e. rhaid i ni ymateb i gais a gyflwynwyd ar 16 Mawrth erbyn 17 Ebrill, ar yr amod ei fod yn ddiwrnod o'r wythnos, fel arall gwneir hyn ar ddiwrnod o'r wythnos ganlynol).

Mae gennych hawl i apelio i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth os nad ydych yn fodlon ar yr ymateb rydym yn ei roi. Caiff rhagor o wybodaeth am yr hawl hwn ei chynnwys yn ein hymateb i chi.

Sut i wneud cais

Defnyddiwch y ffurflen isod i gyflwyno'ch cais, gan nodi bod unrhyw gwestiynau a nodir â seren (*) yn orfodol.

Rhaid i chi ddarparu tystiolaeth ddigonol o'ch hunaniaeth pan rydych yn cyflwyno'ch cais. Gan ddefnyddio'r opsiwn lanlwytho ar y ffurflen ar-lein, rhaid i chi ddarparu copi digidol o un o'r dogfennau canlynol:

  • Pasbort (y dudalen gyda'ch llun)
  • Trwydded yrru
  • Bil cyfleustodau neu dreth y cyngor diweddar

Os nad oes sganiwr gennych, gallwch lanlwytho llun digidol a dynnwyd gyda chamera, tabled neu ffôn, ar yr amod ei fod yn glir. Uchafswm maint y ffeil y gellir ei lanlwytho yw 4MB.

Rhaid i chi fod yn benodol am yr wybodaeth rydych chi'n gofyn amdani. Gellir gwrthod ceisiadau am wybodaeth nad ydynt yn rhoi canllawiau clir i ni gynnal chwiliad o fewn yr amser a ganiateir.

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 03 Hydref 2024