Toglo gwelededd dewislen symudol

Mae eich hoff arddangosfa tân gwyllt yn dychwelyd ar 5 Tachwedd

Bydd Cyngor Abertawe'n croesawu ei arddangosfa tân gwyllt flynyddol yn ôl y mis nesaf

fireworks 2023 preview

Disgwylir i filoedd o breswylwyr, teuluoedd a myfyrwyr ddychwelyd i Faes San Helen i wylio arddangosfa tân gwyllt arbennig ar thema 'Noson gyda'r Sêr' nos Sul, 5 Tachwedd.

Bydd y gatiau'n agor am 5pm, gyda'r adloniant cyn yr arddangosfa'n dechrau am 5.30pm, a fydd yn cynnwys diddanwyr disglair, atyniadau ar thema ffilmiau a chymeriadau sy'n cerdded o gwmpas y lle.

Bydd yr arwr lleol, Kev Johns, yno fel codwr hwyl yr arddangosfa a bydd hefyd chwiloleuadau arddull Hollywood a fydd yn goleuo'r gorwel yn ogystal â cherddoriaeth a dawnsio cyn y prif arddangosfa.

Meddai Aelod Cabinet Cyngor Abertawe, Robert Francis-Davies , "Rydym yn darparu digwyddiadau gwych i bobl Abertawe eu mwynhau - a dyma ddigwyddiad allweddol yn ein rhaglen flynyddol.

"Mae'n achlysur diogel a chyffrous i'r teulu cyfan ac rydym yn cadw prisiau tocynnau mor isel â phosib eleni.  Er enghraifft, pris tocyn i deulu o 5 yw £10, sy'n gyfwerth â £2 yr un, sy'n cynnig gwerth da iawn am arian ar gyfer noson mas ddifyr a diogel sy'n addas i'r teulu cyfan!

"Mae pris tocynnau i aelodau Pasbort i Hamdden yn dechrau o £2, a phris tocyn ymlaen llaw i oedolyn unigol yw £4 yn unig am noson llawn adloniant. I'r rheini sydd am barcio gerllaw, y gost ar gyfer parcio yw £5 y cerbyd o hyd, sef yr un pris â blynyddoedd blaenorol."

Er mwyn manteisio ar y prisiau cynnig cynnar am gost gostyngol, prynwch eich tocynnau nawr yn  www.joiobaeabertawe.com

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 04 Hydref 2023